Neidio i'r cynnwys

Philadelphia

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 02:27, 9 Medi 2011 gan Luckas-bot (sgwrs | cyfraniadau)
Gweler hefyd Philadelphia (gwahaniaethu).
Philadelphia
Lleoliad o fewn Pennsylvania
Gwlad Unol Daleithiau America
Ardal Philadelphia
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Awdurdod Dinas Philadelphia
Maer Michael Nutter
Pencadlys New York City Hall
Daearyddiaeth
Arwynebedd 349.6 km²
Uchder 39 troedfedd (12 medr) m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 1,447,395 (Cyfrifiad 2008)
Dwysedd Poblogaeth 4,140.1 /km2
Metro 5,838,471
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser EST (UTC-5)
Cod Post 215, 267
Gwefan http://www.phila.gov

Dinas Philadelphia yw dinas fwyaf Pennsylvania a'r chweched mwyaf o ran poblogaeth yn Unol Daleithiau America. Mae'n gorwedd yn Swydd Philadelphia, ac yn gwasanaethu fel sedd llywodraeth y swydd honno. Ei enw ar lafar yw "Dinas Brawdgarwch" (Saesneg: "the City of Brotherly Love") (Groeg: Φιλαδέλφεια, philadelphia, "brawdgarwch," o'r gair philos "cariad" ac adelphos "brawd").

Yn 2005 roedd ganddi boblogaeth o 1.4 million. Mae Philadelphia yn un o ganolfannau masnach, addysg, a diwylliant pwysicaf yr Unol Daleithiau. Yn 2006 amcangyfrifwyd fod gan ardal ddinesig Philadelphia boblogaeth o 5.8 miliwn, y bumed fwyaf yn UDA.

Yn y 18fed ganrif, roedd Philadelphia y ddinas fwyaf poblog yn y wlad. Mae'n debyg iddi fod yr ail fwyaf poblog, ar ôl Llundain, yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Y pryd hynny roedd yn bwysicach na dinasoedd Boston a Dinas Efrog Newydd yn nhermau dylanwad gwleidyddol a chymdeithasol, gyda Benjamin Franklin yn chwarae rhan bwysig yn ei goruchafiaeth. Philadelphia oedd canolbwynt cymdeithasol a daearyddol yr 13 gwladfa Americanaidd gwreiddol. Yno yn anad unlle arall y ganwyd y Chwyldro Americanaidd a arweiniodd at greu'r Unol Daleithiau.

Diwylliant

Mae gan Philadelphia nifer o safleoedd hanesyddol sy'n ymwneud â sefydlu'r Unol Daleithiau. Parc Hanesyddol Annibynniaeth Cenedlaethol sy'n ganolbwynt i'r mannau hanesyddol hyn. Y Neuadd Annibyniaeth (yn Saesneg "Independence Hall"), lle arwyddwyd y Datganiad o Annibynniaeth a'r Gloch Rhyddid (yn Saesneg "Liberty Bell") yw atyniadau enwocaf y ddinas. Mae safleoedd hanesyddol eraill yn cynnwys cartrefi Edgar Allan Poe, Betsy Ross, a Thaddeus Kosciuszko, adeiladau'r llywodraeth gwreiddiol, megis Y Banc Cyntaf ac Ail Fanc yr Unol Daleithiau, Ffort Mifflin, a'r Gloria Dei (Old Swedes') Safle Hanesyddol yr Eglwys Genedlaethol.

Mae prif amgueddfeydd gwyddonol Philadelphia'n cynnwys y Franklin Institute, sy'n cynnwys Cofeb Cenedlaethol Benjamin Franklin, yr Academi o Wyddorau Naturiol ac Amgueddfa Archeoleg ac Athropoleg Prifysgol Pennsylvania. Ymysg yr amgueddfeydd hanesyddol, ceir y Ganolfan Cyfansoddiad Cenedlaethol, Amgueddfa Atwater Kent o Hanes Philadelphia, Cymdeithas Hanesyddol Philadelphia, yr Amgueddfa Cenedlaethol am Hanes Iddewig, Amgueddfa Americaniaid Affricanaidd yn Philadelphia, Y Gyfrinfa Fawr Seiri Rhyddion a Dethol Talaith Pennsylvania ac Amgueddfa'r Seiri Rhyddion. Yn Philadelphia y ceir sŵ ac ysbyty cyntaf yr Unol Daleithiau.

Gweler hefyd

Canol Philadelphia
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol