Saint-Lô
Gwedd
Saint-Lô (neu Saint-Laud) yw prifddinas département Manche yn région Basse-Normandie yng ngogledd-orllewin Ffrainc. Roedd y boblogaeth yn 19,320 yn 2007.
Yr hen enw Celteg ar y ddinas oedd Briovère, o enw afon Vire. Dinistriwyd tua 97% o Saint-Lô yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan gipiodd yr Americanwyr hi o ddwylo'r Almaenwyr yn 1944. Dechreuwyd ail-adeiladu yn 1945.
Pobl enwog o Saint-Lô
- Urbain Le Verrier (1811-1877), mathemategydd a seryddwr