Hawsa
Gwedd
Pwnc yr erthygl hon ydy'r iaith Hawsa. Am y grŵp ethnig, gweler Hawsaid.
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Hausa–Gwandara |
Label brodorol | Hausa |
Aelod o'r canlynol | Ieithoedd Affro-Asiaidd |
Enw brodorol | Hausa |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ha |
cod ISO 639-2 | hau |
cod ISO 639-3 | hau |
Gwladwriaeth | Benin, Bwrcina Ffaso, Ghana, Camerŵn, Niger, Nigeria, Togo, Tsiad |
Rhanbarth | Gorllewin Affrica |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, Yr wyddor Arabeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith Affro-Asiaidd yn perthyn i ddosbarth yr Ieithoedd Tsiadaidd yw 'Hawsa. Hi yw'r iaith Tsiadaidd gyda mwyaf o siaradwyr; tua 24 miliwn o siaradwyr iaith-gyntaf a tua 15 miliwn o siaradwyr ail-iaith. Mae'n perthyn i isddosbarth yr ieithoedd Tsiadaidd Gorllewinol.
Siaradwyr Hawsa fel mamiaith yw'r bobl Hawsa, neu Hawsaid, sy'n byw yn Niger a gogledd Nigeria, ond defnyddir yr iaith fel iaith gyffredinol mewn rhannau helaeth o Orllewin Affrica, fel Swahili yn Nwyrain Affrica. Mae'n iaith swyddogol yng ngogledd Nigeria ac yn iaith genedlaethol yn Niger.
Arferai'r iaith ddefnyddio'r wyddor Arabeg, ond mae'n awr wedi newid i'r wyddor Rufeinig.
- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022