Neidio i'r cynnwys

Mudiad Heb Aliniad

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Mudiad Heb Aliniad a ddiwygiwyd gan Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau) am 08:09, 19 Hydref 2024. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Mudiad Heb Aliniad


      Aelodau
      Gwledydd arsyllwyr

PencadlysCanolfan Gydgysylltu yn Ninas Efrog Newydd
Aelodaeth120 o aelodau
17 o wledydd arsyllwyr
Prif gorff penderfynuCynhadledd Penaethiaid Gwladwriaethau y Gwledydd Amhleidiol
CadeiryddBaner Yr Aifft Yr Aifft
Ysgrifennydd CyffredinolMohamed Hussein Tantawi (de facto)
Sefydlwyd1961
Gwefancsstc.org

Mae'r Mudiad Heb Aliniad (Saesneg: Non-Aligned Movement (NAM)) yn grŵp rhyngwladol o wladwriaethau nad ydynt yn ystyried eu hunain yn ochri'n ffurfiol gydag unrhyw floc grym (e.e. y Cenhedloedd Unedig), nac yn erbyn unrhyw floc grym. Erbyn 2024 roedd yn cynnwys 120 o aelodau llawn ac 20 arall a oedd yn 'arsylwi'. Fe'i sefydlwyd gyda'r bwriad o hyrwyddo buddiannau gwledydd sy'n datblygu yng nghyd-destun gwrthdaro yn y Rhyfel Oer. Ar ôl y Cenhedloedd Unedig, dyma'r grŵp mwyaf o wladwriaethau ledled y byd.

Ym mhlith yr aelodau mae Belarws, Wsbecistan, ac holl aelodau Grŵp y 77, ac eithrio'r rhai sydd'n arsyllwyr yn y Mudiad yn ogystal â gwledydd Oceania (ar wahân i Papua Gini Newydd a Fanwatw, sydd yn aelodau).

Sefydlwyd y sefydliad yn Beograd ym 1961 gan ymdrechion Josip Broz Tito, Arlywydd Iwgoslafia, Jawaharlal Nehru, Prif Weinidog India, Gamal Abdel Nasser, Arlywydd yr Aifft, Kwame Nkrumah, Arlywydd Ghana, a Sukarno, Arlywydd Indonesia. Eu bwriad oedd i hyrwyddo trydydd ddewis i wladwriaethau'r Trydydd Byd ar wahân i flociau'r Dwyrain a'r Gorllewin yn y Rhyfel Oer.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]