Egni cinetig
Gwedd
"Symudiad" ydy ystyr y gair "cinetig", fel yn y gair "sinema" - lluniau'n symud - ac ystyr egni cinetig ydy'r egni sydd mewn rhyw wrthrych neu gorff oherwydd ei fod yn symud. Daw'r gair "cinetig" o'r gair Groeg, κίνηση (cinesis).
Gellir ei ddiffinio fel gwaith mecanyddol sydd ei angen i gyflymu gwrthrych o fas arbennig o'r stad lonydd i'r stad o symud. Drwy dderbyn yr egni hwn drwy fuanedd, mae'r corff yn cadw'r egni cinetig hwn o'i fewn - oni bai fod ei gyflymder yn newid.