Nagpur
Gwedd
Dinas yn nhalaith Maharashtra yng nghanolbarth India yw Nagpur. Saif yng ngogledd-ddwyrain Maharashtra, a chyda poblogaeth o 2,051,320, hi yw dinas fwyaf canolbarth India.
Nagpur yw ail brifddinas Maharashtra; yma y mae senedd y dalaith yn cyfarfod yn y gaeaf. Mae'r ardal yn adnabyddus am dyfu orennau.