Neidio i'r cynnwys

Cwymp Wall Street

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:47, 14 Mai 2007 gan Anatiomaros (sgwrs | cyfraniadau)
Llawr masnach Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd yn fuan ar ôl gwymp 1929.

Cwymp marchnad stoc Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd (NYSE) yn Hydref 1929 oedd Cwymp Wall Street. Daeth hyn ag ymchwydd economaidd yr UDA yn y 1920au i ben, ac arweiniodd at y Dirwasgiad Mawr.

Dechreuodd y cwymp ar 24 Hydref (Dydd Iau Du) a pharhaodd nes 29 Hydref (Dydd Mawrth Du).

Achosion

Ymchwydd y Cyfranddaliadau

Graff yn dangos y miliynau o gyfranddaliadau a werthwyd yn ystod y 1920au.

Yn ystod yr ychwydd economaidd, wrth i elw cwmnïau'r UDA gynyddu, gwelwyd prynu cyfranddaliadau fel ffordd di-risg o wneud arian, sef hapfasnachu. Cyn bo hir, roedd gan yr holl wlad obsesiwn gyda'r farchnad stoc, a dechreuodd banciau dderbyn cyfranddaliadau fel gwariant am fenthyciadau. Wrth i fuddsoddwyr golli hyder a gwerthu'u cyfranddaliadau, effeithiodd hyn ar economi'r UDA i gyd.

Gorgynhyrchu

Roedd polisïau'r llywodraeth Weriniaethol o hybu diwydiant yr UDA, trwy ddefnyddio polisi laissez-faire a chwtogi ar gynnyrch tramor, yn un o brif achosion ychwydd yr 1920au, ond arweiniodd hyn at orgynhyrchu a llai o alw am gynnyrch. Wrth i elw cwmnïau gwympo a swm y stoc heb ei werthu gynyddu, rhuthrodd pobl i werthu eu cyfranddaliadau.

Gwelwch hefyd