Llyngyren
Gwedd
Anifeiliaid di-asgwrn-cefn yw llyngyr. Mae ganddynt gorff hirfain, meddal. Does ganddynt ddim coesau na llygaid fel rheol. Mae'r enw yn cyfeirio yn arbennig at rywogaethau sy'n byw ym mherfedd anifeiliaid a phobl, ond mae nifer o grwpiau eraill a elwir hefyd yn lyngyr.
Mae grwpiau o lyngyr yn cynnwys:
- Acanthocephala
- Annelida: llyngyr anelid e.e. abwydyn, gele
- Chaetognatha: saethlyngyr
- Entoprocta
- Gnathostomulida
- Hemichordata: mes-lyngyr
- Nematoda: llyngyr crynion
- Nematomorpha
- Nemertea
- Phoronida
- Platyhelminthes: llyngyr lledog
- Priapulida
- Sipuncula