Pennsylvania
| |||||||||
Prifddinas | Harrisburg | ||||||||
Dinas fwyaf | Philadelphia | ||||||||
Arwynebedd | Safle 33ain | ||||||||
- Cyfanswm | 119,283 km² | ||||||||
- Lled | 255 km | ||||||||
- Hyd | 280 km | ||||||||
- % dŵr | 2.7 | ||||||||
- Lledred | 39°43'G i 42°G | ||||||||
- Hydred | 74°43'Gor i 80°31'Gor | ||||||||
Poblogaeth | Safle 6ed | ||||||||
- Cyfanswm (2010) | 12,702,379 | ||||||||
- Dwysedd | 23.86/km² (31ain) | ||||||||
Uchder | |||||||||
- Man uchaf | Mynydd Davis 979 m | ||||||||
- Cymedr uchder | 335 m | ||||||||
- Man isaf | 0 m | ||||||||
Derbyn i'r Undeb | 12 Rhagfyr 1787 (2il) | ||||||||
Llywodraethwr | Tom Corbett | ||||||||
Seneddwyr | Bob Casey, Jr. (D) Pat Toomey (R) | ||||||||
Cylch amser | UTC -5/-4 | ||||||||
Byrfoddau | PA | ||||||||
Gwefan (yn Saesneg) | www.state.pa.us |
Mae Gwladwriaeth Pennsylvania neu Pennsylvania (hefyd Pensylfania) yn wladwriaeth ac yn un o daleithiau Unol Daleithiau America. Ei llysenw yw'r Dalaith Maen Clo. Y ddwy ddinas fwyaf yw Philadelphia a Phittsburgh.
Gwladychwyd tiroedd eang i'r gogledd a'r gorllewin o Philadelphia gan Grynwyr o Gymru yn y 17 ganrif, ac mae'n debyg y symbylwyd y gwladychiad gan y dyhead i gael rhyddid i addoli yn ôl eu credo. Mae'r nofel gan Marion Eames Y Rhandir Mwyn wedi ei seilio ar hanes y gwladychiad hwn.
Erbyn 1700, roedd un traean (33%) o'r dalaith yn Gymry. Ceir llawer o enwau lleoedd Cymraeg a Chymreig yma hyd heddiw - sy'n dyst i'r gwladychu hwn. Yn niwedd y ddeunawfed ganrif cafwyd ail don o wladychu, wedi'i arwain gan Morgan John Rhys o'r enw Cambria ac a elwir heddiw Tir Cambria (Cambria Country). Ar fur dwyreiniol Neuadd y Dref yn Philadelphia, er enghraifft, ceir plac sy'n cynnwys y geiriad hwn:
- Perpetuating the Welsh heritage, and commemorating the vision and virtue of the following Welsh patriots in the founding of the City, Commonwealth, and Nation: William Penn, 1644-1718, proclaimed freedom of religion and planned New Wales later named Pennsylvania. Thomas Jefferson, 1743-1826, third President of the United States, composed the Declaration of Independence. Robert Morris, 1734-1806, foremost financier of the American Revolution and signer of the Declaration of Independence. Governor Morris, 1752-1816, wrote the final draft of the Constitution of the United States. John Marshall, 1755-1835, Chief Justice of the United States and father of American constitutional law.
Dinasoedd a threfi
1 | Philadelphia | 1,447,395 |
2 | Pittsburgh | 305,704 |
3 | Erie | 101,786 |
4 | Allentown | 118,032 |
5 | Bethlehem | 85,000 |
6 | Reading | 88,082 |
7 | York | 43,718 |
Cysylltiadau allanol