Neidio i'r cynnwys

Love Jones-Parry

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:29, 5 Ionawr 2017 gan Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau)
Syr Thomas Duncombe Love Jones-Parry Bt, AS
Love Jones-Parry

Syr Love Jones-Parry


Cyfnod yn y swydd
1868 – 1874
Rhagflaenydd George Douglas-Pennant
Olynydd George Douglas-Pennant

Cyfnod yn y swydd
1882 – 1886
Rhagflaenydd William Bulkeley Hughes
Olynydd Edmund Swetenham

Geni 5 Ionawr 1832
Marw 18 Rhagfyr, 1891
Pwllheli
Plaid wleidyddol Rhyddfrydol
Priod Mrs Charlotte Bell Elliot
Plant 0
Cartref Plas Madryn
Alma mater Coleg y Brifysgol, Rhydychen

Roedd Syr Thomas Duncombe Love Jones-Parry (5 Ionawr 183218 Rhagfyr, 1891) yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Caernarfon ac yn un o sefydlwyr y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Bywyd Personol

Ganwyd Love Jones Parry ym 1832 yn fab i Syr Love Parry Jones-Parry a'i ail wraig Elizabeth Caldescott merch Thomas Caldescott, Holton Lodge, Swydd Lincoln. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Rugby a Choleg y Brifysgol, Rhydychen gan raddio ym 1850.[1]

Priododd Mrs Charlotte Bell Elliot, gweddw Fredrick A Elliot yn Llundain ym 1886, ni chawsant blant.[2]

Ei yrfa gyhoeddus

Etifeddodd Love Jones-Parry stâd Madryn, gerllaw Nefyn ar ôl ei dad, Syr Love Parry Jones-Parry. Bu’n Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1854. Roedd yn amlwg mewn cylchoedd eisteddfodol, lle’r adwaenid ef dan ei enw barddol "Elphin".

Daeth i amlygrwydd gwleidyddol pan enillodd sedd Sir Gaernarfon yn etholiad 1868, gan guro’r ymgeisydd Torïaidd, George Sholto Gordon Douglas-Pennant (yn ddiweddarach Barwn Penrhyn). Collodd y sedd hon yn yr etholiad nesaf, ond enillodd sedd Bwrdeisdrefi Caernarfon yn 1882, a daliodd y sedd hyd 1886. Fe’i gwnaed yn Farwnig gan Gladstone am ei wasanaethau i’r Blaid Ryddfrydol.

Y Wladfa

Yn niwedd 1862 aeth Capten Love Jones-Parry gyda Lewis Jones i Batagonia i weld a oedd yn addas ar gyfer ymfudwyr Cymreig. Ariannwyd hyn yn bennaf gan Jones-Parry, a dalodd o leiaf £750 o'i boced ei hun. Cyraeddasant mewn llong fechan o’r enw "Candelaria", a gyrrwyd hwy gan storm i fae a enwyd ganddynt yn "Borth Madryn" ar ôl cartref Jones-Parry. Heddiw gelwir y dref a dyfodd gerllaw’r man y glaniodd y ddau yn Puerto Madryn. Yn dilyn adroddiad ffafriol gan Jones-Parry a Lewis Jones, hwyliodd mintai o 162 o Gymry yn y Mimosa yn 1865. Yn ddiweddarach bu beirniadu fod yr adroddiad wedi rhoi darlun camarweiniol o’r ardal; beirniadaeth ar Lewis Jones yn bennaf yn hytrach na Love Jones-Parry.

Marwolaeth

Castell Madryn tua 1870

Bu farw Syr Love Jones-Parry yn ei gartref Plas Madryn, Pwllheli ar 18 Rhagfyr 1891 yn 59 mlwydd oed [3] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanbedrog.[4]

Llyfryddiaeth

  • Trebor Evans Teulu Madryn (Pwllheli: Clwb y Bont, 1993)

Cyfeiriadau

  1. Nicholas, Thomas; Annals and antiquities of the counties and county families of Wales T354 [1] adalwyd 14 Mawrth 2015
  2. Llangollen Advertiser 19 Tachwedd 1886 Marriage of Sir Love Jones-parry Bart [2] adalwyd 14 Mawrth 2015
  3. Cymro (Lerpwl A'r Wyddgrug), 24 Rhagfyr 1891 Marwolaeth Syr Love Jones Parry, Barwnig [3] adalwyd 14 Mawrth 2015
  4. North Wales Express 1 Ionawr 1892 Funeral of Sir Love Jones Parry [4] adalwyd 14 Mawrth 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Douglas-Pennant
Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon
18681874
Olynydd:
George Douglas-Pennant
Rhagflaenydd:
William Bulkeley Hughes
Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon
18821886
Olynydd:
Edmund Swetenham