Cronfa Pontsticill
Gwedd
Cronfa ddŵr yw Cronfa Pontsticill neu Cronfa Taf Fechan sy'n rhannol yn sir Powys a'r rhan arall ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful. Saif ar Afon Taf Fechan gerllaw pentref Pontsticill, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Crëwyd y gronfa trwy adeiladu argae 110 troedfedd o uchder, a orffennwyd yn 1927.Mae arwynebedd y llyn yn 102 hectar, ac mae'n 30m o ddyfnder yn y man dyfnaf.