Love Jones-Parry
Yr oedd Syr Thomas Duncombe Love Jones-Parry (5 Ionawr 1832 – 1891) yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Caernarfon ac yn un o sefydlwyr y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Ei yrfa gyhoeddus
Eitifeddodd Love Jones-Parry stâd Madryn, gerllaw Nefyn ar ôl ei dad, Syr Love Parry Jones-Parry. Addysgwyd ef yn ysgol Rugby a Phrifysgol Rhydychen, a bu’n Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1854. Yr oedd yn amlwg mewn cylchoedd eisteddfodol, lle’r adwaenid ef dan ei enw barddol "Elphin".
Daeth i amlygrwydd gwleidyddol pan enillodd sedd Sir Gaernarfon yn etholiad 1868, gan guro’r ymgeisydd Torïaidd, George Sholto Gordon Douglas-Pennant (yn ddiweddarach Barwn Penrhyn). Collodd y sedd hon yn yr etholiad nesaf, ond enillodd sedd Bwrdeisdrefi Caernarfon yn 1882, a daliodd y sedd hyd 1886. Fe’i gwnaed yn Farwnig gan Gladstone am ei wasanaethau i’r Blaid Ryddfrydol.
Y Wladfa
Yn niwedd 1862 aeth Capten Love Jones-Parry gyda Lewis Jones i Batagonia i weld a oedd yn addas ar gyfer ymfudwyr Cymreig. Ariannwyd hyn yn bennaf gan Jones-Parry, a dalodd o leiaf £750 o'i boced ei hun. Cyraeddasant mewn llong fechan o’r enw "Candelaria", a gyrrwyd hwy gan storm i fae a enwyd ganddynt yn "Borth Madryn" ar ôl cartref Jones-Parry. Heddiw gelwir y dref a dyfodd gerllaw’r man y glaniodd y ddau yn Puerto Madryn. Yn dilyn adroddiad ffafriol gan Jones-Parry a Lewis Jones, hwyliodd mintai o 162 o Gymry yn y Mimosa yn 1865. Yn ddiweddarach bu beirniadu fod yr adroddiad wedi rhoi darlun camarweiniol o’r ardal; beirniadaeth ar Lewis Jones yn bennaf yn hytrach na Love Jones-Parry.
Llyfryddiaeth
- Trebor Evans Teulu Madryn' (Pwllheli: Clwb y Bont, 1993)
Rhagflaenydd: William Bulkeley Hughes |
Aelod Seneddol dros Caernarfon 1882 - 1886 |
Olynydd: Edmund Swetenham |