Neidio i'r cynnwys

Atgenhedlu

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:05, 23 Mawrth 2017 gan Anime geek (sgwrs | cyfraniadau)
Planhigyn Kalanchoë pinnata yn magu epil blanhigion ar hyd ymylon ei ddail: enghraifft o atgenhedlu an-rhywiol
Llewod yn Kenya yn atgenhedlu.

Y broses fiolegol sy'n creu organebau unigol newydd yw atgenhedlu (Saesneg: reproduction). Mae atgenhedlu yn rhinwedd greiddiol o fywyd; mae pob organeb (hyd y gwyddom) yn ganlyniad i atgenhedlu. Mae dau fath: atgenhedliad rhywiol (gweler cyfathrach rywiol) neu'n an-rhywiol ac weithiau gall un rhywogaeth fel yr affid newid o'r naill i'r llall.

Trwy 'atgenhedlu'n an-rhywiol', gall unigolyn atgenhedlu heb angen aelod arall o'r un rhywogaeth. Mae ymraniad cell facteriol yn ddwy epil gell yn enghraifft o atgenhedlu an-rhywiol. Ond mae organebau amlgellog yn atgenhedlu'n an-rhywiol hefyd; gall y rhan fwyaf o blanhigion atgenhedlu'n an-rhywiol.

Mae'n rhaid i ddau unigolyn gymryd rhan mewn 'atgenhedlu rhywiol', un o bob rhyw gan amlaf. Mae atgenhedlu dynol yn rhywiol.

Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Atgenhedlu
yn Wiciadur.