Eglwys
Cyfeiria'r gair eglwys at grŵp o bobl o'r grefydd Gristnogol (yn enwedig pan sillafir y gair â phrif lythyren, er enghraifft Yr Eglwys yng Nghymru) neu at yr adeilad lle maent yn addoli. Daw'r gair Cymraeg o'r enw Lladin Diweddar ecclesia (Cernyweg eglos, Hen Wyddeleg eclais). Gall gyfeirio hefyd at y gymuned Gristnogol gyfan, yn arbennig yn ei hanes cynnar; Yr Eglwys Fore yw'r term a ddefnyddir am Gristnogaeth yn y canrifoedd cynnar, dan yr Ymerodraeth Rufeinig.
Fel arfer yng Nghymru mae'r gair yn cyfeirio at addoldai Protestannaidd cydumffurfiol neu Catholig, ond nid ar gyfer rhai Anghydffurfiol, y cyfeirir atynt fel capeli. Gelwir eglwys lle mae esgob neu archesgob yn eistedd yn eglwys gadeiriol.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Gair benthyg o'r Lladin yw "eglwys", yn tarddu o'r gair "ec(c)lesia".[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Yr Eglwys Anglicanaidd
- Yr Eglwysi Protestannaidd
- Yr Eglwys Fore neu'r Eglwys Gyntefig
- Eglwys gadeiriol
- Yr Eglwys Gatholig
- Eglwys Loegr
- Eglwys plwyf
- Eglwys Roeg
- Yr Eglwys Uniongred
- Yr Eglwys yng Nghymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lewis, Henry. 1943. Yr Elfen Ladin Yn Yr Iaith Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t. 38.