Neidio i'r cynnwys

Cwtiad torchog bach

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:28, 24 Rhagfyr 2005 gan Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Mae'r Cwtiad Torchog Bach (Charadrius dubius) yn aelod o deulu'r rhydyddion sy'n nythu trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia.

Mae ganddo gefn brownllwyd, bol gwyn a bron wen gyda throch ddu ar ei thraws. Mae ganddo ddu o gwmpas y llygaid a chap brown, gyda llinell wen rhyngddynt. Gellir gwahaniaethu rhyngddo a'r Cwtiad Torchog, sy'n debyg iawn ond ychydig yn fwy, trwy fod gan y Cwtiad Torchog Bach linell felen yn amgylchynu'r llygad a bod llinell wen ar y talcen rheng y du a'r brown.

Yn wahanol i'r Cwtiad Torchog mae fel rheol yn nythu ger dŵr croyw yn hytrach nag ar lan y môr, yn enwedig ar y graean gerllaw llynnoedd ac afonydd. Mae'n aderyn mudol sy'n trweulio'r gaeaf yn Affrica.

Mae'r nifer sy'n nythu yng Nghymru yn gymharol fychan, ond mae rhywfaint o gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf.