ETA
- Am y seithfed llythyren yn yr wyddor Roeg gweler Eta (llythyren)
Mudiad arfog sy'n hawlio annibyniaeth i Wlad y Basg yw Euskadi Ta Askatasuna, a adnabyddir ran amlaf fel ETA.
Sefydlwyd ETA yn 1959 fel mudiad oedd yn anelu at ddiogelu traddodiadau Basgaidd. Yn raddol, datblygodd i gynnal ymgyrch arfog am annibyniaeth, gydag ideoleg Marcsaidd-Leninaidd. Cynrychiolir adain wleidyddol y mudiad gan blaid Batasuna, sydd ar hyn o bryd wedi ei gwahardd yn Sbaen.
Daeth ETA i amlygrwydd yn ystod cyfnod Fransisco Franco fel unben Sbaen, yn enwedig pan laddasant y Llynghesydd Luis Carrero Blanco, oedd wedi ei nodi fel olynydd Franco yn 1973. Cyhoeddodd y mudiad gadoediad yn gynnar yn 2006, a dechreuwyd trafodaethau gyda llywodraeth Sbaen, ond daeth y rhain i ben wedi i aelodau o ETA ffrwydro bom ym maes awyr Barajas, Madrid yn hwyrach yn y flwyddyn.