Catanzaro
Gwedd
Dinas yn ne yr Eidal a phrifddinas rhanbarth Calabria yw Catanzaro (Groeg: Katantheros, Katastarioi Lokroi). Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 94,969.
Saif y ddinas ar graig, ac mae mewn dwy ran, gyda dyffryn Fiumarella rhyngddynt. Adeiladwyd pont y Viadotto Morandi i'w cysylltu yn 1960. Tua 5 km i'r de, mae Catanzaro Lido ar y traeth.