Neidio i'r cynnwys

Cynghrair Corinth

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:05, 13 Mawrth 2009 gan NobelBot (sgwrs | cyfraniadau)
Gweler hefyd Corinth (gwahaniaethu).

Cynghrair hanesyddol o ddinas-wladwriaethau Groeg (a elwir hefyd Y Cynghrair Helenaidd) oedd Cynghrair Corinth. Fe'i ffurfiwyd yn 338 CC dan arweiniaeth Philip II o Facedon. Ei bwrpas oedd cymryd rhan mewn ymgyrch ar y cyd â Macedonia yn erbyn yr Ymerodraeth Bersiaidd. Cyfrannodd y Cynhgrair i gyrchoedd Alecsander Fawr yn Asia Leiaf a'r Dwyrain Canol pan olynodd ei dad fel brenin Macedon yn 336 CC. Cafodd y Cynghrair ei ddirymu ar ôl marwolaeth Alecsander yn 323 CC. Cafodd ei atgyfodi am dymor byr yn 303 CC.

Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato