ETA
- Am y seithfed llythyren yn yr wyddor Roeg gweler Eta (llythyren)
Mudiad a hawliai annibyniaeth i Wlad y Basg oedd Euskadi Ta Askatasuna, a adnabyddir ran amlaf fel ETA ac a oedd unwaith yn fudiad arfog. Daeth y mudiad i ben ar 4 Mai 2018.</ref>naziogintza.eus; adalwyd 8 Mai 2018.</ref>
Sefydlwyd ETA yn 1959 fel mudiad oedd yn anelu at ddiogelu traddodiadau Basgaidd; yn y cyfnod hwn gwaharddiad llwyr ar unrhyw fynegiant o genedligrwydd Basgaidd, gyda Francisco Franco a'i gyfundref unbeniaethol. Yn raddol, datblygodd y mudiad yn fudiad arfog a frwydrai dros annibyniaeth y wlad, gydag ideoleg sosialaidd i ddechrau a Marcsaidd-Leninaidd yn ddiweddarach. Daeth ETA i amlygrwydd pan laddasant y Llynghesydd Luis Carrero Blanco, oedd wedi ei nodi fel olynydd Franco yn 1973. Cynrychiolwyd adain wleidyddol y mudiad gan blaid Batasuna, a whaharddwyd gan Sbaen yn 2003 gan eu bod (yn ôl Sbaen) yn codi arian tuag at ETA.
Cyhoeddodd y mudiad gadoediad yn gynnar yn 2006, a dechreuwyd trafodaethau gyda llywodraeth Sbaen, ond daeth y rhain i ben wedi i aelodau o ETA ffrwydro bom ym maes awyr Barajas, Madrid yn hwyrach yn y flwyddyn.