Neidio i'r cynnwys

Mynyddoedd Taurus

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 06:11, 6 Ebrill 2009 gan Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
Taurus

Mynyddoedd yn ne-orllewin Asia yw Mynyddoedd Taurus. Ffurfiant gadwyn o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain ar draws rhan ddeheuol Anatolia, Twrci.

Mae afon Ewffrates yn tarddu yma ac yn llifo i mewn i Syria. Gelwir y rhan uchaf o'r gadwyn yn Aladağ; y copa uchaf yw Demirkazık (Aladağlar), sydd bron 4,000 medr uwch lefel y môr.

Roedd yr ardal yn bwysig yn ystod y cyfnod neolithig, pan oedd obsidian yn cael ei fwyngloddio yma. Gwnaed darganfyddiadau archaeolegol pwysig yn Çatal Hüyük gerllaw. Ger Kestel mae safle archaeolegol o Oes yr Efydd, lle roedd tun yn cael ei fwyngloddio.

Lleoliad Mynyddoedd Taurus