362 CC
Gwedd
5ed ganrif CC - 4ydd ganrif CC - 3edd ganrif CC
410au CC 400au CC 390au CC 380au CC 370au CC 360au CC 350au CC 340au CC 330au CC 320au CC 310au CC
Digwyddiadau
- Rhyfel yng ngwlad Groeg rhwng Thebai a'i chyngheiriaid ar un ochr a Sparta, Athen a'u cyngheiriaid ar yr ochr arall. Ym Mrwydr Mantinea mae'r cadfridog Epaminondas o Thebai yn gorchfygu Sparta, ond lleddir Epaminondas yn y frwydr. Gyda'i farwolaeth ef, daw goruchafiaeth Thebai ar Wlad Groeg i ben.
- Agesilaus II, brenin Sparta, yn cyrraedd yr Aifft gyda 1,000 o filwyr i gynorthwyo'r Eifftiaid yn erbyn Ymerodraeth Persia
Genedigaethau
- Eumenes o Cardia, cadfridog ac ysgolhaig Groegaidd
Marwolaethau
- Epaminondas o Thebai, cadfridog a gwladweinydd Groegaidd