Afon Trent
Gwedd
Afon yng nghanolbarth Lloegr yw Afon Trent. Ei hyd yw 270 km (170 milltir).
Llifa afon Trent i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain yn bennaf, o Swydd Stafford trwy Nottingham, i ymuno ag afon Ouse i ffurfio aber Humber. Afon Trent yw afon fwyaf canolbarth Lloegr, ac fe'i cysylltir ag afon Merswy gan Camlas Trent, Merswy a'r Grand Union.
Lleoedd ar afon Trent
Mae dinasoedd a threfi sy'n gorwedd ar yr afon neu'n agos iddi yn cynnwys:
- Stoke-on-Trent
- Stone
- Rugeley
- Lichfield
- Burton upon Trent
- Castle Donington
- Rampton
- Derby
- Beeston
- Nottingham
- Newark-on-Trent
- Gainsborough
- Gunness
- Scunthorpe