Dai Jones
- Gweler hefyd: David Jones
Dai Jones | |
---|---|
Ganwyd | David John Jones 18 Hydref 1943 Putney |
Bu farw | 4 Mawrth 2022 Llanilar |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, ffermwr, cyflwynydd radio, canwr |
Gwobr/au | MBE |
|
|||||
Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. |
|
|||||
Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. |
Canwr, ffermwr, a chyflwynydd teledu a radio yw Dai Jones MBE (ganed 18 Hydref 1943),[1] sy'n byw yn Llanilar ger Aberystwyth, Ceredigion. Fe'i adwaenir hefyd fel Dai Llanilar. Mae'n cadw gwartheg a defaid ar ei fferm, Berthlwyd, sydd erbyn hyn yn cael ei rhedeg ar y cyd gyda'i wraig Olwen a'i fab John.
Cyhoeddodd ei hunangofiant, Fi Dai Sy' 'Ma ym 1997 ac ail gyfrol Tra Bo Dai yn 2016.[1]
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd David John Jones yn Holloway, Llundain i deulu o ffermwyr Cymreig. Symudodd i Gymru pan yn dair oed a fe'i magwyd gan ei ewythr a'i fodryb ar eu fferm laeth yn Brynchwith, Llangwyryfon. Aeth i'r ysgol yn Llangwyryfon ac Ysgol Dinas, Aberystwyth a cychwynodd weithio ar y fferm yn 15 mlwydd oed. Dywedodd Dai ei fod wedi ffaelu ei arholiad 11-plus yn fwriadol er mwyn osgoi mynd i ysgol ramadeg am ei fod wedi clywed fod tipyn o waith cartref i'w wneud yno.
Roedd yn weithgar gyda'r capel, Eisteddfod yr Urdd a'r Ffermwyr Ifanc a roddodd hyn fagwraeth iddo yn niwylliant a thraddodiadau Cymru. Fel tenor ifanc addawol byddai'n gadael y fferm ar ôl godro a mynd i gael gwersi canu yn Aberystwyth, gan y cyn ganwr opera Redvers Llewelyn, cyn dychwelyd i odro eto yn y prynhawn. Yn ddiweddarach daeth yn ddisgybl o Ifan Maldwyn Jones, Machynlleth a Colin Jones, Rhosllanerchrugog.[1]
Gyrfa
Canwr
Yn y 1960au daeth yn denor medrus ac enillodd gystadlaethau yn Eisteddfodau'r Urdd yng Nghaerfyrddin a Llanrwst. Yn 1970 enillodd wobr Canwr y Flwyddyn yn Llangollen ac y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970. Daeth i'r brig hefyd yng ngwyliau Pantyfedwen, Aberteifi, Môn a Phowys.[2]
Yn ystod y cyfnod yma, teithiodd y byd yn canu a rhyddhaodd chwech record LP ar label Cambrian.[3]
Cyflwynydd
Darlledodd Dai ar Radio Cymru am y tro cyntaf yn 1962 pan weithiodd ar y rhaglen Sêr y Siroedd. Erbyn hyn mae'n cyflwyno Ar Eich Cais ar yr orsaf.
Yn 1971 cychwynnodd gyflwyno y cwis teledu Siôn a Siân ar HTV Cymru a parhodd nes i'r gyfres wreiddiol ddod i ben yn 1987. Yn yr 1980au cynnar gofynnodd y cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd Geraint Rees iddo gyflwyno'r gyfres Cefn Gwlad . Roedd Rees yn cynhyrchu rhaglen o'r un enw ar sianel HTV Cymru gynt, a oedd yn dangos pigion o fywyd cefn gwlad, a symudodd y rhaglen i S4C ar ei lansiad yn 1982. Testun y rhaglen gyntaf iddo gyflwyno oedd Berthlwyd, sef ei fferm ei hun. I genhedlaeth o wylwyr dyma'r sioe a gysylltir yn bennaf gyda Dai Jones, a daeth yn nodedig am ei ddigrifwch naturiol. Yn ogystal a'r rhaglenni arferol o leoliadau yng Nghymru gwnaed rhifynnau arbennig am anturiaethau Dai wrth deithio dramor.[4]
Mae hefyd wedi cyflwyno nifer fawr o raglenni ar S4C yn cynnwys rhaglenni o Sioe Llanelwedd, Noson Lawen, a Rasus.
Cafodd ei ddychanu yn aml ar raglen gartŵn Gymraeg Cnex.
Gwobrau ac anrhydeddau
Gwobrwywyd gydag MBE am wasanaethau i adloniant yng Nghymru ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd ym 1999.[5]
Enillodd Jones wobr BAFTA Cymru yn 2004 am ei gyfraniadau i ddarlledu ar y teledu a'r radio yng Nghymru. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, enillodd wobr Syr Bryner Jones am ei gyfraniad i faterion gwledig a fe'i wnaed yn Gymrawd Coleg Prifysgol Cymru ddydd Gwener gan un o'i arwyr, Elystan Morgan.[6]
Daeth yn llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig ar ei ganmlwyddiant yn 2004/05.
Bywyd personol
Cyfarfu ei wraig Olwen mewn cystadleuaeth da godro yn Nhrawsgoed. Priododd y cwpl ar 22 Hydref 1966 a mae ganddynt fab, John.
Disgyddiaeth
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Lyn Ebenezer. (1997). Cyfres y Cewri: 17. Fi Dai Sy' 'Ma. Gwasg Gwynedd. ISBN 9780860741428. URL
- ↑ Dai Jones - bywgraffiad. Recordiau Sain. Adalwyd ar 1 Medi 2017.
- ↑ Dai Jones Llanilar's Royal Welsh honour (en) , Daily Post, 15 Gorffennaf 2010.
- ↑ Cefn Gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes Y Sioe. S4C Press Department.
- ↑ MBE civil (H - M). BBC (31 Rhagfyr 1999).
- ↑ Gwobr i Dai Jones, Llanilar , BBC Cymru, 20 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd ar 1 Medi 2017.