Neidio i'r cynnwys

Santiago de Compostela

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 02:14, 6 Mawrth 2010 gan Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Arfbais Santiago de Compostela

Santiago de Compostela yw prifddinas cymuned ymreolaethol Galisia yn Sbaen. Yn 1985 cyhoeddwyd hen ddinas Santiago yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Roedd y boblogaeth yn 92,919 yn 2005.

Mae Santiago wedi bod yn gyrchfan bwysig i bererinion ers y Canol Oesoedd; ystyrir mai hi yw'r gyrchfan bwysicaf ar ôl Jerusalem a Rhufain. Yn ôl y traddodiad, dygwyd corff Sant Iago yma yn wyrthiol wedi iddo gael ei ferthyru yn Jerusalem yn 44 OC.. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am Brifysgol Santiago de Compostela, sydd wedi ei sefydlu ers mwy na 500 mlynedd, ac am Eglwys Gadeiriol Sant Iago.

Mae llwybr y Camino de Santiago yn arwain yno ar draws gogledd Sbaen, ac mae miloedd yn ei ddilyn bob blwyddyn.


Eglwys Gadeiriol Sant Iago.

Gefeilldrefi