Neidio i'r cynnwys

Onnen

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:27, 9 Chwefror 2019 gan Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Onnen
Fraxinus ornus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Oleaceae
Llwyth: Oleeae
Genws: Fraxinus
L.[1]
Rhywogaethau

Tua 45–65

Y ffwng ar gangen o onnen yng ngwledydd Prydain, 2012
Yr onnen Ewropeaidd yn ei blodau
Hadau'r onnen Ewropeaidd

Coeden sy'n perthyn i'r genws Fraxinus o'r teulu Oleaceae (teulu'r olewydd a'r lelog) yw onnen (Saesneg: ash). Ceir cryn nifer o rywogaethau yn y genws hwn yn enwedig yng Ngogledd America, Ewrop ac Asia. Maent yn goed mawr neu gweddol fawr. Yr onnen gyffredin yng Nghymru yw'r Onnen Ewropeaidd, Fraxinus excelsior. Mae’r rhan fwyaf o rywogaethau Fraxinus yn ddeuoecaidd sy’n golygu bod blodau gwrywaidd a benywaidd ar blanhigion gwahanol.

Mae'r dail gyferbyn a'i gilydd ac mae'n goeden hawdd ei hadnabod yn yr hydref o'r'hadau hofrennydd' sy'n disgyn ohoni. Ffrwyth ydy'r henyn hwn, yn wyddonol, a elwir yn samara. Nid yw'r gerddinen yn perthyn i'r Fraxinus, er fod y dail a'r egin yn edrych yn union yr un peth, eithr mae'n perthyn i'r genws Sorbus.

Enwau

Mae’r onnen Fraxinus excelsior yn aelod o’r un teulu a’r olewydden a lelog. Mae ‘excelsior’ yn golygu ‘rhagorol’. Mae ei henw Saesneg ash yn tarddu o air Eingl-sacsonaidd am ‘gwaywffon’.[2]

Yr enw Llydaweg yw onnenn a'r enw Ffrangeg yw frêne (sy'n tarddu mae'n debyg o'r Lladin fraxinus)

Ecoleg

Mae ynn yn gyffredin ledled Prydain ac maen nhw’n ffynnu ar galchfaen. Y goedwig fwyaf gogleddol lle maent yn tyfu ydy coedwig Rassal, Wester Ross yn yr Alban. Maen ynn yn ffafrio pridd llaith ac yn cynnal dros 110 o rywogaethau o bryfed a gwiddon (gweler isod). Bydd blagur du mawr yr onnen yn gyfarwydd i lawer ac yn aml mae’r rhain yn hynod o drawiadol yn ystod y gaeaf. Mae’r dail yn ymddangos yn hwyrach yn y gwanwyn na llawer o goed eraill ac mae hyn yn golygu bod planhigion eraill yn gallu sefydlu eu hunain o dan y goeden trwy fanteisio ar heulwen a gwres; blodau fel briallu a blodyn y gwynt yn blodeuo’n braf ym mis Mai a mis Mae onnynn yn gyffredin ledled Prydain ac maen nhw’n ffynnu ar galchfaen. Y goedwig fwyaf gogleddol lle mae onnynn yn tyfu ydy ‘Rassal Ashwood’, Wester Ross yn yr Alban. Maen nhw’n ffafrio pridd llaith a chefnogi dros 110 o rywogaethau o bryfed a gwiddon. Dw i’n siŵr y bydd blagur du mawr yr onnen yn gyfarwydd i chi ac yn aml mae’r rhain yn hynod o drawiadol yn ystod y gaeaf. Mae’r dail yn ymddangos yn hwyrach yn y flwyddyn na llawer o goed eraill ac mae hyn yn golygu bod planhigion eraill megis briallu a blodau'r gwynt yn gallu sefydlu eu hunain o dan y goeden trwy fanteisio ar heulwen a gwres cynnar mis Mai a Mehefin. [3]

Mae nifer o loynnod byw a gwyfynod yn byw ac yn bwyta'r onnen gan gynnwys Teigr ôl-adain goch, Teigr cochddu, Gwyfyn drewllyd, y Llewpart, Brith y cyrens, Carpiog y gwyddfid, Gwyfyn teires y Gogledd, Brychan cochwyrdd, Carpiog pluog, Rhisglyn minfylchog bach, Carpiog mawr, Carpiog tywyll, Brychan Tachwedd, Pwtyn yr ynn, Rhisglyn brith, Carpiog y cyll, Brychan y gaeaf, Gwregys dau smotyn, Carpiog lloerennog, Carpiog porffor, Brychan y rhafnwydd, Gwyfyn Rhagfyr, Siobyn cynffon frown, Siobyn y sipsi, Siobyn, Ôl-adain gopor, Oren coch, Melyn yr onnen, Ôl-adain las a'r Ôl-adain goch.

Hymenoscyphus pseudoalbidus

Adnabyddwyd y ffwng Hymenoscyphus pseudoalbidus am y tro cyntaf yn 2006 dan yr enw Chalara fraxinea.[4] Mae'n tyfu ar yr onnen yn ystod yr haf ac mae'r sborau'n ymledu gan y gwynt.[5] Ataliwyd mewnforio pren a choed yr onnen i fewn i wledydd Prydain gan ddeddfwriaeth yn Hydref 2012.[6]

Rhywogaethau

Dwyrain Gogledd America
Gorllewin a de-orllewin Gogledd America
Y Palaearctig gorllewinol (Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia)
Y Palaearctig dwyreiniol (canolbarth a dwyrain Asia)

Cyfeiriadau

  1. "Fraxinus L." Germplasm Resources Information Network. United States Department of Agriculture. 2006-04-03. Cyrchwyd 2010-02-22.
  2. Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 39
  3. Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 39
  4. "FRAXBACK - Category: Chalara". FRAXBACK. Cyrchwyd 31 Hydref 2012.
  5. "Chalara dieback of ash (Chalara fraxinea)". Y Comisiwn Coedwigaeth. Cyrchwyd 27 Hydref 2012.
  6. David Batty and agencies (27 October 2012). "Ash tree ban may be too late to avert 'UK tragedy', says expert". The Guardian. Cyrchwyd 29 Hydref 2012. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)