Neidio i'r cynnwys

Dinas Jibwti

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:27, 10 Gorffennaf 2010 gan Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Harbwr Djibouti

Dinas Djibouti neu dim ond Djibouti (Arabeg: جيبوتي}, Somaleg: Jabuuti, Ffrangeg: Ville de Djibouti) yw prifddinas Djibouti yng ngogledd-ddwyrain Affrica. Hi yw dinas fwyaf y wlad, gyda phoblogaeth o tua 400,000. Mae hefyd yn borthladd pwysig.

Saif Dinas Djibouti ar yr arfordir, ar Gwlff Aden a gerllaw'r culfor sy'n arwain i mewn i'r Môr Coch. Sefydlwyd yr harbwr yma yn 1888. O 1892 hyd 1977, roedd yn brifddinas Somaliland Ffrengig.

Heblaw bod o bwysigrwydd economaidd mawr i'r wlad ei hun, mae porthladd Dinas Djibouti wedi dod yn bwysig iawn i Ethiopia wedi i'r wlad honno golli ei mynediad at y môr pan ddaeth Eritrea yn annibynnol. Mae rheilffordd yn cysylltu Dinas Djibouti ag Addis Ababa.