Neidio i'r cynnwys

Macedon

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 05:36, 31 Hydref 2010 gan Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)

Teyrnas Macedon Yr oedd Macedon (a adnabyddir hefyd fel Macedonia) (Groeg: Μακεδονία Makedonía) yn deyrnas hynafol â'i chanolfan yn rhanbarth bresennol Macedonia yng ngogledd Gwlad Groeg, cartref y Macedoniaid hynafol; ar adegau o'i hanes roedd y deyrnas yn cynnwys rhannau o wledydd presennol Gwlad Groeg, Gweriniaeth Macedonia, Albania, Bwlgaria a Thrace. Daeth i ddominyddu'r Roeg hynafol yn y 4edd ganrif CC, pan lwyddodd Philip II i orfodi'r dinas-wladwriaethau Groeg, fel Athen a Thebes, i ffurfio Cynghrair Corinth. Aeth mab Philip, Alecsander Fawr, ymlaen i oresgyn Ymerodraeth Persia. Er i deyrnas Macedon golli reolaeth ar daleithiau Ymerodraeth Persia, parhaodd i ddominyddu Gwlad Groeg ei hun nes iddi gael ei gwncweru gan Weriniaeth Rhufain yn Rhyfeloedd Macedonia (215 - 148 CC) a dod yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ar ôl hynny.

Gweler hefyd