Neidio i'r cynnwys

Efengyl

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:54, 10 Rhagfyr 2010 gan Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)

Testun crefyddol efengylaidd sy'n honni adrodd hanes am Iesu o Nasareth yw efengyl ("Newyddion da"). Cysylltir y gair yn bennaf â'r Pedair Efengyl a geir ar ddechrau'r Testament Newydd yn y Beibl Cristnogol, ond mae'n derm a geir yn nheitlau sawl testun arall hefyd.

Y Pedair Efengyl

Y Pedair Efengyl canonaidd yw:

Efengylau eraill

Yn y llenyddiaeth apocryffaidd a gysylltir â'r Testament Newydd ond nas derbynnir fel rhan o'r llyfr hwnnw bellach, ceir sawl efengyl, e.e. Efengyl Nicodemus, a fu'n destun poblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Mae testunau eraill yn cynnwys efengylau apocryffaidd a briodolir i Philip, Mathew, Sant Pedr, ac eraill. Math o efengyl hefyd yw'r testun apocryffaidd Cymraeg Canol Mabinogi Iesu Grist.

Llyfryddiaeth

  • Y Beibl Cymraeg Newydd
  • M. R. James (gol. a chyf.), The Apocryphal New Testament (Rhydychen, 1924; sawl argraffiad diweddarach)
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.