Neidio i'r cynnwys

Tikal

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Tikal a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 22:48, 1 Tachwedd 2019. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Tikal
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTikal National Park Edit this on Wikidata
SirPetén Department Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwatemala Gwatemala
Cyfesurynnau17.2221°N 89.6236°W Edit this on Wikidata
Map

Hen ddinas yn perthyn i'r gwareiddiad Maya yng ngogledd Gwatemala yw Tikal neu Tik'al. Enw'r trigolion ar eu dinas oedd Yax Mutal. Saif yn departement El Petén.

Roedd y ddinas yn ganolfan bwysig o tua 400 CC hyd tua 1000 OC, gan gyrraedd ei hychafbwynt rhwng 300 a 850. Er fod Tikal yn un o ddinasoedd mwyaf pwerus cyfnod clasurol diwylliant y Maya, gorchfygwyd hi o dro i dro gan ei chymdogion, er enghraifft yn 378 pan laddwyd ei brenin Pawen Jagiwar I gan Siyah K'ak', brenin Teotihuacan, ac yn 562 pan gipiwyd y ddinas gan ddonas Caracol. Cyrhaeddodd uchafbwynt ei grym yn 711, pan orchfygodd ddinas Calakmul. Adeiladwyd Teml Offeiriad y Jaguar yn 810. Mae'r arysgrif olaf yn y ddinas yn dyddio o 889. Dynodwyd Tikal yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1979.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]