Efengyl
Gwedd
Testun crefyddol efengylaidd sy'n honni adrodd hanes am Iesu o Nasareth yw efengyl ("Newyddion da"). Cysylltir y gair yn bennaf â'r Pedair Efengyl a geir ar ddechrau'r Testament Newydd yn y Beibl Cristnogol, ond mae'n derm a geir yn nheitlau sawl testun arall hefyd.
Y Pedair Efengyl
Y Pedair Efengyl canonaidd yw:
Efengylau eraill
Yn y llenyddiaeth apocryffaidd a gysylltir â'r Testament Newydd ond nas derbynnir fel rhan o'r llyfr hwnnw bellach, ceir sawl efengyl, e.e. Efengyl Nicodemus, a fu'n destun poblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Mae testunau eraill yn cynnwys efengylau apocryffaidd a briodolir i Philip, Mathew, Sant Pedr, ac eraill. Math o efengyl hefyd yw'r testun apocryffaidd Cymraeg Canol Mabinogi Iesu Grist.
Llyfryddiaeth
- Y Beibl Cymraeg Newydd
- M. R. James (gol. a chyf.), The Apocryphal New Testament (Rhydychen, 1924; sawl argraffiad diweddarach)