AIPAC
Grŵp pwyso a lobïo Seionaidd yn yr Unol Daleithiau sy'n hyrwyddo achos Israel, yn enwedig mewn perthynas â'r gwledydd Arabaidd a Palesteina yw AIPAC (American Israel Public Affairs Committee). Wedi ei greu yn 1951, mae AIPAC yn gefnogwr cryf a dylanwadol o hawliau gwladwriaeth Israel ac yn enwedig y blaid Likud.
Strwythur a chyllid
Hyd at y 1970au nid oedd AIPAC yn gyfundrefn fawr yn nhermau nifer ei weithwyr, ond erbyn heddiw amae gan AIPAC (yn ôl ei ffigyrau ei hun) tua 100,000 aelod a 165 o weithwyr llawn amser a chyllid blynyddol o $45,000,000 (tua £30,000,000). Mae gan AIPAC nifer o swyddfeydd lleol yn y rhan fwyaf o daleithiau UDA yn ogystal â phencadlys yn Washington D.C. ger yr adeilad Congress.
Dylanwad
Mae'n gorff hynod o ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth UDA, yn llywodraeth y dydd a'i weinidogaeth dramor ac yn y ddwy blaid fawr hefyd, y Gweriniaethwyr a'r Democratiaid. Un canlyniad o hyn yw'r ffaith fod Israel yn derbyn mwy o gymorth ariannol a milwrol gan yr Unol Daleithiau nag unrhyw wlad arall yn y byd.
Mae AIPAC wedi cael ei gyhuddo o danseilio annibyniaeth barn seneddwyr ar faterion yn ymwneud ag Israel a'r Dwyrain Canol trwy gymryd gamrau i sicrhau nad yw seneddwyr a chyngreswyr sydd o blaid yr Arabiaid a'r Palesteiniaid yn cael eu hail-ethol. Mae cael cefnogaeth AIPAC yn hanfodol i ymgeiswyr am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth Barack Obama ar ôl curo Hillary Clinton i fod yn ymgeisydd y Democratiaid am yr arlywyddiaeth yn haf 2008 oedd traddodi araith yng Nghynhadledd Flynyddol AIPAC. Yn ogystal ag addo cefnogi Israel fel sy'n arferol, datganodd fod Jeriwsalem yn "brifddinas Israel am byth", gan fynd yn erbyn un o brif hawliau'r Palesteiniaid sef fod Dwyrain Jeriwsalem a Mosg Al-Qasr yn perthyn iddyn nhw.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ "Obama, Israel and AIPAC" Archifwyd 2008-12-25 yn y Peiriant Wayback, erthygl gan Uri Avnery ar Counterpoint.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan AIPAC
- (Saesneg) Papur ymchwil yn datgelu rhan AIPAC ym mholisi tramor UDA Archifwyd 2007-02-02 yn y Peiriant Wayback, gan John Mearsheimer a Stephen Walt ar wefan Prifysgol Harvard