Amaeth
Enghraifft o'r canlynol | sector economaidd, maes gwaith |
---|---|
Math | agriculture and forestry, cultivation |
Dyddiad cynharaf | Mileniwm 15. CC |
Rhan o | Diwydiant cynradd, food system |
Dechreuwyd | Mileniwm 8. CC |
Rhagflaenwyd gan | gathering |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y gelfyddid o drin y tir i gynhyrchu bwyd neu rhyw nwyddau eraill yw amaeth neu amaethyddiaeth. Gelwir y weithred o wneud hyn yn 'amaethu' neu 'ffermio'. Dyma'r dechneg o dyfu planhigion megis llysiau neu ffrwythau, a rheoli, amddiffyn a bridio preiddiau o anifieliaid er mwyn cael cynnyrch megis cig, llaeth, gwlan neu ledr.
Roedd amaethu'n ddatblygiad allweddol yn nhwf gwareiddiad gan fod medru darparu bwyd yn rhyddhau pobl i ymhel â thechnolegau newydd, diwylliant ayb. Datblygiad o hyn oedd y Chwyldro Diwydiannol a ryddhaodd bobl ymhellach o fod yn gaeth i amaethu i wneud pethau eraill. Cyn y Chwyldro Diwydiannol, roedd mwyafrif llethol o bobl yn amaethwyr, gyda math o fodolaeth hunan-gynhaliol o dyfu planhigion ac anifeiliaid i'r teulu'n unig yn hytrach na'u gwerthu am arian. Yng Nghymru, gwelwyd effaith hyn yn bennaf ar ddau fath o ffermwr: y ffermwyr godro a drodd i werthu llaeth a'r ffermwyr defaid a ddechreuodd farchnata gwân.
Hanes amaeth
Mae'n ymddangos mai yn y Cilgant Ffrwythlon, sef y tiroedd sy'n ymestyn o Balesteina drwy ogledd Syria, Irac, Cyrdistan ac i lawr afonydd y Tigris a'r Ewffrates i fôr Gwlff Arabia, y cychwynodd amaeth a hynny tua 11,500 CP. Roedd y tir hwn yn llawer mwy ffrwythlon nag ydy heddiw. Ceir tystiolaeth fod barlys, gwenith a lentils a fridiwyd ar gyfer y bwrdd bwyd yn cael ei dyfu 9,800 o flynyddoed yn ôl.[1] Wrth gwrs, mae'n ddigon posib i hyn ddigwydd mewn sawl lle yn annibynnol o'i gilydd tua'r un amser e.e. yn ne Tsieina, Sahel yn Affrica ac yn Gini Newydd. Roedd Oes yr Iâ'n dal i afael yn y tir ond roedd y glawiad yn llawer mwy ffafriol na'r hyn a geir heddiw, ac yn cynnal coedwigoedd a thiroedd agored fel y'i gilydd.
Erbyn tua 10,000 CP dofwyd sawl math o anifail gwyllt. Roedd y bual (neu'r fuwch) wyllt yn greadur peryglus, fel y mochyn gwyllt hwnnw a ddisgrifir yn Culhwch ac Olwen. Ni ddofwyd y cwbwl ac anodd yw meddwl fod pob buwch dan haul wedi tarddu o'r bualod gogleddol hyn (y buffalo). Drwy reoli ac amddiffyn preiddiau, gwelwyd newid sylweddol yn y ffordd roedd pobl yn byw a daeth cynnydd yn y boblogaeth. Erbyn tua 9,000 gwelwyd pobl yn dod at ei gilydd a gwelir strwythur i'r amaethyddiaeth gyntefig hwn: caeau, cloddiau, ffosydd amddiffynnol a phentrefi. Ymhlith yr olion y mae: Jarma, Irac a Jerico ym Mhalesteina. Gelwir y cyfuniad hwn o dyfu cnydau a magu anifeiliaid dof yn 'Chwyldro Neolithig'.
Erbyn 6,500 CC roedd amaethu wedi cyrraedd de-ddwyrain Ewrop, ac erbyn tua 3,000 CC, fel y dengys lluniau a cherfiadau'r cyfnod, gwelwn fod teirw'n tynnu ceir llusg, gwartheg yn cael eu bwydo gan ddyn ac eraill yn cael eu godro. O'r ddafad moufflon mae defaid Ewrop yn tarddu. Yng nghymuned Argissa yn Thesally, Gwlad Groeg, ceir olion yr anifeiliaid dof hyn fel a ganlyn: defaid a geifr (84%), moch (10%), gwartheg (5%) a chŵn (1%).[2]
Geirdarddiad
Daw'r gair amaeth o'r Lladin ambactus sef 'gwas', ond mae'n bosibl mai o'r Hen Gelteg yr aeth i'r Lladin. Fe'i cofnodwyd yn gyntaf yn y 13g yn Llyfr Du'r Waun: "ni ddylai neb gymryd amayath arno oni heb wneuthur aradr...".[3]
Ffermio yng Nghymru
- Prif: Amaeth yng Nghymru
Roedd dyddiau pwysig ar y fferm ers stalwm pan oedd cymdogion yn dod i'r fferm i helpu i gneifio, dyrnu, lladd mochyn pluo ac ati, ond erbyn hyn mae peiriannau ar gael i wneud y gwaith a'r elfen gymdeithasol wedi lleihau. Oherwydd mynyddoedd, tywydd ac answadd ei phridd, ychydig iawn o dir sy'n addas ar gyfer cnydau, yn wahanol i Loegr. Canolbwyntiwyd, felly ar gig anifail.
Marchnadoedd
-
Ffair wartheg yng Nghilgeran tua 1885
-
Llanidloes 1881
-
Llannerch-y-medd tua 1885
-
Ffair geffylau yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, tua 1885
-
Ffair Nadolig yng Nghroesoswallt, 1939
Arall
-
Fferm yn Henllan, Sir Ddinbych tua 1885
-
Ffermwr a'i faharen tua 1885
-
Tarw Dolwilym, Cilymaenllwyd tua 1885
-
Gwedd o geffylau'n tynnu'r aradr
-
Peiriant i dorri'r gwair, tua 1885
-
Tyddyn bychan yn Llanbedrog, tua 1885
Llên Gwerin
Daeth Dafydd Whiteside Thomas ar draws y chwe phennill canlynol (dienw) wedi eu teipio ar gefn hen fil cigydd o Gaernarfon tua’r 1940au. Yn anffodus, roedd y pennill cyntaf ar goll.
- Saith Rhyfeddod
- Mi glywais ddwedyd fod y petris
- Ar fin y traeth yn chwarae tennis,
- A'u bod yn gwneud eu peli o dywod
- A dyna ddau o'r saith rhyfeddod.
- Mi glywais ddwedyd fod y cryman
- Mewn cae o haidd yn medi ei hunan,
- A'i fod yn torri cefn mewn diwrnod
- A dyna dri o'r saith rhyfeddod.
- Mi glywais ddweyd fod pysgodyn
- Yn cadw ty mewn twmpath eithin,
- Ac yno'n byw ers pedwar diwrnod
- A dyna bedwar o'r saith rhyfeddod.
- Mi glywais ddwedyd fod y mochyn
- Ar ben y car yn llwytho rhedyn,
- A'i fod yn gwneud ei Iwyth yn barod
- A dyna bump o'r saith rhyfeddod.
- Mi glywais ddwedyd fod y ceiliog
- Ar Graig y Llan yn hela sgwarnog,
- A'i fod yn dala dwy mewn diwrnod
- A dyna chwech o'r saith rhyfeddod.
- Mi glywais ddwedyd fod y wennol
- Ar Fôr y De yn gosod pedol
- A'i morthwyl aur, a'i hengan arian,
- A dyna'r saith rhyfeddod allan.
Mae'r penillion yn mynd a ni'n ôl i oes amaethyddol go wahanol. Faint o ffermwyr sy'n 'torri cefn' erbyn heddiw, neu hyd yn oed yn tyfu haidd? Ac er fod llawer o ladd a thorri rhedyn yn dal i ddigwydd, ychydig iawn sy'n ei gasglu ar gar neu drol”.[4]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ www.news.sciencemag.org; Archifwyd 2015-11-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2015
- ↑ Fferm a Thyddyn; Rhif 54, 2014; gol. Twm Elias
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 2015
- ↑ Papur bro Eco’r Wyddfa Medi 2007