Buachaille Etive Mòr
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Uwch y môr | 1,021 metr |
Cyfesurynnau | 56.6473°N 4.8978°W |
Manylion | |
Amlygrwydd | 533 metr |
Rhiant gopa | Bidean nam Bian |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd y Grampians |
Mae Buachaille Etive Mòr (1021m) yn fynydd Munro ger Glen Coe yn ardal Lorne yng ngorllewin canolbarth Ucheldiroedd yr Alban. Ystyr yr enw Gaeleg yw "Bugail Mawr Etive".
Mae gan y mynydd ddau brif gopa, sef Stob Dearg (1021m) "Y Copa Coch", a chopa cribog Sgor na Bròige (956m). Gyferbyn mae Buachaille Etive Beag a'i gopaon Stob Dubh (958m) "Y Copa Du" a Stob Coire Raineach (925m) "Copa Cwm Raineach". Rhyngddynt maent yn ffurfio pedol serth a chreigiog sy'n un o'r golygfeydd mwyaf trawiadol yn yr Ucheldiroedd. Mae bwlch uchel Lairig Gartain yn gwahanu dau ben y bedol gyda Buachaille Etive Mòr i'r de a Buachaille Etive Beag i'r gogledd. Yng nghanol y bedol mae'r "Cwm Coll" (The Lost Valley) enwog.
Mae'r mynydd yn codi i'r gorllewin o'r briffordd A82 rhwng Tyndrum a Ballachullish sy'n rhedeg trwy Glen Coe. Dros y glen i'r gogledd mae mynyddoedd is ond eithaf crieigiog yn cuddio Cronfa Blackwater. I'r de o'r mynydd mae cwm hardd Glen Etive yn arwain i lawr i Loch Etive a'r môr â mynyddoedd uchel ar bob ochr iddo.
Y ffordd hawsaf i ddringo Buachaille Etive Mòr yw o'r A82 trwy'r Cwm Coll.
Am fap sy'n dangos lleoliad Buachaille Etive Mòr, gweler Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros) (Adran 3).