Efrddyl o Erging
Efrddyl o Erging | |
---|---|
Ganwyd | 5 g Erging |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Peibio Clafrog |
Plant | Dyfrig |
Santes oedd Efrddyl (ganwyd tua 400), yn ferch i Peibiau, pennaeth Erging [1](gorllewin Sir Henffordd) ac yn berthynas i Elen Luyddog.
Esgor
Yn ôl y hanes pan ddarganfuodd Peibiau fod ei ferch yn disgwyl plentyn, gorchmynnodd y dylai hi cael ei thaflu i'r afon mewn sach. Gwnaeth hyn a golchwyd hi i'r lan. Penderfynodd Peibiau y dylai Efrddyl cael ei llosgu yn fyw. Pan aeth y gweision at weddillion y tân daethant o hyd i Efrddyl yn eistedd yn y lludw yn magu ei baban newydd-anedig. Buasai yn amhosibl i neb byw trwy'r fath triniaeth ac awgrymir fod Peibiau wedi bwgwth y fath gosbedigaeth cyn taflu Efrddyl allan o'i gartref.[1]
Baban Efrddyl oedd Dyfrig, a tyfodd i fod yn esgob Henffordd. Cred rhai fod Brychan Brycheiniog oedd ei dad.
Cysegriadau
Mae pedwar safle ym Mrycheiniog a Gwent yn dwyn yr enw Efrddyl; dwy Lanefrddyl; Ynys Efrddyl a Ffynnon Efrddyl.
Gweler hefyd
Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"