Neidio i'r cynnwys

Oddi ar Wicipedia
Ni chefnogir y fersiwn argraffadwy bellach ac efallai y bydd gwallau rendro. Diweddarwch eich nodau tudalen a defnyddiwch y nodweddion argraffu arferol yn eich porwr.
Math o gyfrwngmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathdŵr, solid Edit this on Wikidata
Deunydddŵr Edit this on Wikidata
Olynwyd gandŵr ar ffurf hylif Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dŵr wedi'i rewi i'w gyflwr solid yw (neu rhew).

Mae iâ yn anarferol oherwydd ei fod yn 8.3% yn llai dwys na dŵr, sy'n golygu ei fod yn arnofio ar wyneb dŵr hylif. Mae dŵr hylif ar ei ddwysaf ar 4 °C, pan fydd yn 1 g / cm³. Mae'r dwysedd hwn yn lleihau wrth i folecylau'r dŵr ddechrau ffurfio crisialau hecsagonol o rew wrth gyrraedd y rhewbwynt. Digwydd hyn o ganlyniad i'r bondiau hydrogen mewn dŵr. Pan mae dŵr yn cyrraedd tymheredd o 0 °C ac felly yn rhewi, mae'r bondiau hydrogen hyn yn gwneud i'r molecylau dŵr ffurfio dellt anhyblyg, sydd yn gadael bylchau rhwng y molecylau. Mae hyn felly yn arwain at ddwysedd isel ond cyfaint uchel iâ.

Gan ddibynnu ar bresenoldeb amhureddau fel gronynnau pridd neu swigod aer, gall iâ ymddangos yn dryloyw neu'n wynlas.

Pan fydd rhew yn toddi, mae'n amsugno cymaint o egni ag y byddai'n ei gymryd i wresogi dŵr o'r un màs i 80 °C. Yn ystod y broses doddi, mae tymheredd y rhew yn aros yn 0 °C. Wrth doddi, mae unrhyw egni sydd yn cael ei ychwanegu yn torri'r bondiau hydrogen rhwng molecylau rhew.

Gweler hefyd

Chwiliwch am
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.