Joan Abse
Joan Abse | |
---|---|
Ganwyd | Joan Mercer 11 Medi 1926 St Helens |
Bu farw | 13 Mehefin 2005 o damwain cerbyd Pen-y-bont ar Ogwr |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd celf, llenor |
Priod | Dannie Abse |
Roedd Joan Abse (née Mercer) (11 Medi, 1926 –13 Mehefin, 2005) yn hanesydd celf, ymgyrchydd gwleidyddol ac awdur Seisnig.[1]
Cefndir
Ganwyd Mercer yn St Helens Swydd Gaerhirfryn yn blentyn i John Mercer peiriannydd a Mary Ann ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg St Helens ac Ysgol Economeg Llundain. Wedi coleg bu'n gweithio hyd ei phriodas fel llyfrgellydd y Financial Times.[1]
Ymgyrchydd gwleidyddol
Roedd hi'n weithgar yn wleidyddol o'i hieuenctid. Daeth yn ysgrifennydd cangen y Blaid Lafur Annibynnol yn St Helens yn 14 oed. Wedi hynny bu ganddi gysylltiad oes â'r elfen honno o wleidyddiaeth chwith i'r canol oedd yn weithredol dros heddychiaeth a'r symudiad gwrth-niwclear.
Daeth hi'n aelod cynnar o'r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear a bu yn gefnogol i ymgyrch Menywod Greenham Common. Bu hi'n protestio yn erbyn y Rhyfel yn Irac ac yn aelod o Glymblaid Atal y Rhyfel.
Teulu
Priododd Mercer a Dannie Abse, meddyg ym 1951. Roedd Dannie Abse hefyd yn fardd, dramodydd ac yn awdur nifer o lyfrau gan gynnwys The Music Lover's Literary Companion (1988) a Voices in the Gallery (1986), a ysgrifennwyd ar y cyd a'i wraig. Bu iddynt dwy ferch ac un mab.[2]
Hanesydd celf
Cofrestrodd Abse fel myfyriwr hŷn yn Sefydliad Courtauld, lle graddiodd MA mewn hanes celf ym 1972. Arweiniodd ei gwybodaeth eang am gelf, yn enwedig peintio dros y saith canrif ddiwethaf, iddi gyhoeddi nifer o lyfrau oedd yn gwneud celf yn gyraeddadwy i'r darllenydd cyffredin:[3]
- My London School of Economics (My University) 1977
- John Ruskin: A Passionate Moralist 1982
- The Art Galleries of Britain and Ireland: A Guide to their Collections 1985
- Voices in the Gallery 1986 (ar y cyd â Dannie Abse)
- Letters from Wales 2000
- The Music Lover's Literary Companion (ar y cyd â Dannie Abse)
Marwolaeth
Bu farw Abse mewn damwain car ar draffordd yr M4 ger Penybont yn 2005.[4]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Guardian Obituaries 18 Gorffennaf 2005 Joan Abse Historian whose profound understanding of art in a social context was the basis of her great biography of John Ruskin adalwyd 14 Mawrth 2018
- ↑ Curtis, T. (2018, February 15). Abse, Daniel (Dannie) (1923–2014), physician, poet, and author. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 14 Mawrth 2019
- ↑ Independent 17 Gorffennaf 2005 Obituaries -Joan Abse Art historian[dolen farw] adalwyd 14 Mawrth 2019
- ↑ Wales Online 15 JUN 2005 Dannie Abse's wife is killed in car accident adalwyd 14 Mawrth 2019