Trebor Edwards
Trebor Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1939 Dinbych |
Man preswyl | Betws Gwerful Goch |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr |
Adnabyddus am | Un Dydd ar y Tro? |
Math o lais | tenor |
Canwr tenor Cymreig yw Trebor Edwards (ganwyd 1939) a ddaeth yn un o artistiaid recordio mwyaf llwyddiannus Cymru yn yr 1980au.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd yn Ninbych. Yn blentyn roedd wrth ei fodd yn treulio amser ar fferm ei daid, Pen y Bryniau, Betws Gwerful Goch, ger Corwen. Yn 16 mlwydd oed perswadiodd ei fam a'i nain i roi tenantiaeth y fferm iddo. Ar ôl gadael ysgol cafodd fenthyciad gan y banc a daeth yn berchennog ar y ffarm .[1]
Gyrfa canu
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd ei yrfa ym myd canu drwy gystadlu mewn eisteddfodau lleol. Yn nes ymlaen ymddangosodd ar raglenni radio a theledu yn cynnwys Cais am Gân, Trebor, Taro Tant a Noson Lawen. Cyhoeddwyd ei record gyntaf yn 1973 a thros y blynyddoedd mae wedi gwerthu dros 250,000 o recordiau gan ennill pum disg aur.[2] Yn ogystal â'i recordiau Cymraeg mae wedi cyhoeddi nifer o recordiau gyda chaneuon Saesneg. Bu'n llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 2008.[3]
Un o'i ganeuon enwocaf yw Un Dydd Ar Y Tro:
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod ag Ann ac mae ganddynt pedwar o blant.[1] Cyhoeddwyd ei hunangofiant Un Dydd ar y Tro? gan Y Lolfa yn 2008. Erbyn y 2000au roedd ei fab Erfyl yn rhedeg y fferm ac ei fab Gwyn yn rhedeg fferm Pen Craig Fawr gerllaw gyda'i wraig Lyn.[4][5]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Teitl | Dyddiad | Manylion | Label/Rhif Catalog |
---|---|---|---|
Ave Maria | 1973 | EP, Feinyl 7" | Recordiau Tŷ Ar Y Graig, TAG 245 |
Duw Wyr | 1974 | EP, Feinyl 7" | Recordiau Tŷ Ar Y Graig, TAG 249 |
Dyma fy Nghân | 1976 | Albwm, Feinyl LP | Recordiau Sain, SAIN 1048D |
Cân y Bugail | 1978 | Albwm, Feinyl LP | Recordiau Sain, SAIN 1113D |
Un Dydd ar y Tro | 1980 | Albwm, Feinyl LP | Recordiau Sain, SAIN 1193D |
Ychydig Hedd | 1982 | Albwm, Feinyl LP | Recordiau Sain |
Gwelaf dy Wên | 1984 | Albwm, Feinyl LP | Recordiau Sain, |
Diolch | 1986 | Albwm, Feinyl LP | Recordiau Sain, |
Edrych Ymlaen | 1990 | Albwm, Feinyl LP | Recordiau Sain, |
Ceidwad Byd | 1993 | Albwm, Feinyl LP + CD + MP3 | Recordiau Sain, SCD 2061 |
Ffefrynnau Newydd | 1998 | Albwm, Feinyl LP + CD + MP3 | Recordiau Sain, SCD 2183 |
Sicrwydd Bendigaid | 2008 | Albwm, CD + MP3 | Recordiau Sain, SCD 2530 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Meet Trebor Edwards – the ‘star’ of the Royal Welsh. Farmers Weekly (2 Gorffennaf 2008). Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.
- ↑ Bywgraffiad Trebor Edwards. Sain.
- ↑ "Anrhydedd i Trebor" (in Welsh), BBC East Wales, Chwefror 2007.
- ↑ Trebor Edwards a'i Wyrion. S4C. Adalwyd ar 20 Hydref 2019.
- ↑ EVER THE SHOWMAN , North Wales Live, 17 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd ar 20 Hydref 2019.