Neidio i'r cynnwys

Cumbria

Oddi ar Wicipedia
Cumbria
Mathsiroedd seremonïol Lloegr, sir an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGogledd-orllewin Lloegr, Lloegr
PrifddinasCaerliwelydd Edit this on Wikidata
Poblogaeth499,781 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd6,766.5996 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDumfries a Galloway, Northumberland, Roxburgh, Ettrick and Lauderdale, Swydd Durham, Swydd Gaerhirfryn, Gogledd Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.5°N 3.25°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE10000006 Edit this on Wikidata
GB-CMA Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Cumbria County Council Edit this on Wikidata
Map

Sir seremonïol yng Ngogledd-orllewin Lloegr yw Cumbria. Ei chanolfan weinyddol yw Caerliwelydd. Mae'r sir yn cynnwys Ardal y Llynnoedd gyda'r mynyddoedd uchaf yn Lloegr.

Lleoliad Cumbria yn Lloegr

Yr un tarddiad sydd i'r enw "Cumbria" â'r gair "Cymru"; yn wir, yn yr ardal hon y siaradwyd Hen Gymraeg ddiwethaf yng ngwledydd Prydain ar wahân i Gymru a Chernyw[1] ac efallai Ystrad Clud yn yr Alban. Gair arall am yr iaith ar yr adeg hon yw Cymbrieg, sy'n air academaidd mewn gwirionedd. Mae'r cofnod cynharaf sydd ar glawr o'r gair Hen Saesneg Cumberland yn dyddio o 945; ei ystyr yw "Tir y Cymry".

Roedd Rheged, un o deyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd yn cynnwys y cyfan o'r ardal a adnabyddir heddiw fel Cumbria. Ymhlith y brenhinoedd Brythonig yr oedd Urien Rheged (canodd Taliesin iddo), Owain, Dyfnwal ab Owain, a Mael Coluim[angen ffynhonnell]. Yn y 7g, daeth o dan deyrnas Northumbria a'i arweinydd Ecgfrith.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Ardaloedd awdurdod lleol

[golygu | golygu cod]

Rhennir y sir yn ddau awdurdod unedol:

  1. Cumberland
  2. Westmorland a Furness

Daeth y ddau awdurdod i fodolaeth ar 1 Ebrill 2023 pan gyfunwyd chwe ardal an-fetropolitan:

Etholaethau seneddol

[golygu | golygu cod]

Rhennir y sir yn chwe etholaeth seneddol yn San Steffan:

Pobl o Cumbria

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Cumbria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato