Cyfeddiannaeth
Gweithred ffurfiol unochrog yw cyfeddiannaeth a wneir gan wladwriaeth sydd yn datgan sofraniaeth dros diriogaeth a oedd cyn hynny y tu allan i'w hawdurdodaeth. Fel arfer byddai gwladwriaeth yn cyfeddiannu tiriogaeth sydd yn gartref i wladychwyr neu gydwladwyr, yn brotectoriaeth iddi neu y tu mewn i'w maes dylanwad, neu wedi ei choncro'n filwrol.
Nid oes rhaid i'r awdurdod sydd yn meddu'r diriogaeth ynghynt i gytuno i gael ei gyfeddianu, ond disgwylir i'r gyfeddiannaeth gael ei gydnabod yn gyffredinol gan wledydd eraill, boed yn swyddogol neu'n ymarferol. Os yw gwladwriaeth yn cytuno i ildio'i thiriogaeth i wladwriaeth arall trwy gytundeb neu werthiant, gelwir hynny yn ddadafeiliad ac nid cyfeddiannaeth. Yn ôl Siarter y Cenhedloedd Unedig, dylai hunanbenderfyniad y boblogaeth fod yn sail i drawsnewid tiriogaeth o un wladwriaeth i wladwriaeth arall. Nid oes cydnabyddiaeth ffurfiol o gyfeddiannaeth yn y gyfraith ryngwladol. Mae'r arferion a'r broses yn amrywio'n ôl cyfraith gyfansoddiadol y wladwriaeth sydd yn cyfeddiannu'r tir. Er enghraifft, cafodd cyfeddiannaethau Texas ac Hawaii gan Unol Daleithiau America eu cadarnhau trwy benderfyniadau gan y Gyngres.
Rhestr cyfeddiannau hanesyddol
[golygu | golygu cod]- Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542: cyfeddiannaeth Cymru gan Deyrnas Lloegr
- 1845: cyfeddiannaeth Texas gan Unol Daleithiau America
- 1898: cyfeddiannaeth Hawaii gan Unol Daleithiau America
- 12 Mawrth 1938: Anschluss, cyfeddiannaeth Awstria gan yr Almaen Natsiaidd
- 1951: cyfeddiannaeth Tibet gan Weriniaeth Pobl Tsieina
- 18–19 Rhagfyr 1961: cyfeddiannaeth Goa, Daman a Diu gan India oddi ar Bortiwgal
- 28 Awst 1990: cyfeddiannaeth Coweit gan Irac, a arweiniodd at Ryfel y Gwlff
- Chwefror–Mawrth 2014: cyfeddiannaeth y Crimea gan Ffederasiwn Rwsia oddi ar Wcráin