Y Drych Cristianogawl
Math o gyfrwng | fersiwn, rhifyn neu gyfieithiad |
---|---|
Awdur | Gruffydd Robert, Robert Gwyn |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1588 |
Cysylltir gyda | gwasg argraffu gudd Rhiwledyn |
Dechrau/Sefydlu | 1585 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Y Drych Cristianogawl (sic) oedd y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru. Yn ôl traddodiad cafodd ei gyhoeddi yn ddirgel mewn ogof ar Benrhyn Rhiwledyn yn y Creuddyn yn yr hen Sir Gaernarfon yn 1585.[1] Yr awdur oedd Robert Gwyn neu Gruffydd Robert, sy'n enwog am ei lyfr gramadeg Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg (1567).
Disgrifiad a hanes
[golygu | golygu cod]Traethawd byr ar gariad at Dduw o safbwynt Catholig yw'r Drych Cristianogawl. Cafodd ei sgwennu gan Gruffydd yn Yr Eidal lle bu'n gyfyffeswr i'r Cardinal Carlo Borromeo ac yn Ganon Diwinyddol yn Eglwys Gadeiriol Milan. Fel nifer o'i gyd-Gatholigion ffoes i'r cyfandir er mwyn osgoi'r erledigaeth ar y ffydd yng ngwledydd Prydain. Yr argraffydd oedd Rhosier Smyth, cydymaith Gruffydd. Yn ôl y ddalen teitl cafodd ei gyhoeddi yn Rouen, ond ceisio taflu llwch yn llygaid yr awdurdodau Protestannaidd oedd y cyhoeddwyr. Anfonwyd y traethawd fesul taflen mewn ysgrifen i Gymru.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gruffydd, R. Geraint, Argraffwyr cyntaf Cymru: gwasgau dirgel y Catholigion adeg Elisabeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1972)
- Gruffydd, R. Geraint, "Gwasg ddirgel yr ogof yn Rhiwledyn", Journal of the Welsh Bibliographical Society 9 (1958-65): 1-23
- Jones, Philip Henry ac Eiluned Rees, gol., A nation and its books: a history of the book in Wales (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan y Llyfr Aberystwyth, 1998)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Drych Cristianogawl. Y Llyfrgell Genedlaethol. Adalwyd ar 6 Mai 2012.