Hadeaidd
Enghraifft o'r canlynol | eon, eonothem |
---|---|
Rhan o | Cyn-Gambriaidd, Graddfa Cronostratigraffig Fyd-eang Safonol (Daeargronolegol) ICS |
Dechreuwyd | c. Mileniwm 4567300. CC |
Daeth i ben | c. Mileniwm 4032. CC |
Olynwyd gan | Archeaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Israniad y linell-amser ddaearegol yw'r Hadeaidd sy'n gorwedd o ran amser cyn yr Archeaidd. Ceir 4 eon, gyda phob un yn ymestyn am ysbaid o dros 500 miliwn o flynyddoedd. Mae'r eon yma'n cychwyn gyda'r Ddaear yn cael ei greu, tua 4.6 biliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[1]
Cyn-Gambriaidd | |||
---|---|---|---|
Hadeaidd | Archeaidd | Proterosöig | Ffanerosöig |
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r gair Hadeaidd (a'r Saesneg "Hadean") o "Hades", sef enw un o dduwiau'r isfyd, yn ôl Mytholeg Roeg. Mae'n cyfeirio at ystâd y Ddaear yr adeg hon: tân a brwmsatn, digon tebyg i uffern yr isfyd, oherwydd y llosgfynyddoedd byw a'r tymheredd uchel. Roedd llawer o grwst y Ddaear hefyd yn dal yn garreg tawdd. Bathwyd y term gan Preston Cloud yn 1972. Y term a ddefnyddiwyd cyn 1972 oedd 'Cyn-Archean'.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Yn 2015 darganfuwyd mwynau carbon mewn creigiau 4.1 biliwn CP yng Ngorllewin Awstralia, a disgrifiwyd nhw fel "gweddillion bywyd biotig".[2][3]
Israniadau
[golygu | golygu cod]Gan mai ychydig iawn o olion sydd o'r amser hwn, ni cheir israniadau. Defnyddir llinell-amser daearegol y Lleuad, fodd bynnag]] yn answyddogol. Dyma nhw:
- Cyn-Nectarian: o greu'r Lleuad hyd at 3920 miliwn CP 3,920 miliwn o flynyddoedd yn ôl
- Nectarian o 3,850 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "International Chronostratigraphic Chart 2015" (PDF). ICS. Cyrchwyd 23 Ionawr 2016.
- ↑ Borenstein, Seth (19 Hydref 2015). "Hints of life on what was thought to be desolate early Earth". Excite. Yonkers, NY: Mindspark Interactive Network. Associated Press. Cyrchwyd 20 Hydref 2015.
- ↑ Bell, Elizabeth A.; Boehnike, Patrick; Harrison, T. Mark et al. (19 Hydref 2015). "Potentially biogenic carbon preserved in a 4.1 billion-year-old zircon" (PDF). Proc. Natl. Acad. Sci. U.S.A. (Washington, D.C.: National Academy of Sciences) 112: 14518–21. doi:10.1073/pnas.1517557112. ISSN 1091-6490. PMC 4664351. PMID 26483481. http://www.pnas.org/content/early/2015/10/14/1517557112.full.pdf. Adalwyd 2015-10-20. Early edition, published online before print.