Iâ
Math o gyfrwng | math o endid cemegol |
---|---|
Math | dŵr, solid |
Deunydd | dŵr |
Olynwyd gan | dŵr ar ffurf hylif |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dŵr wedi'i rewi i'w gyflwr solid yw iâ (neu rhew).
Mae iâ yn anarferol oherwydd ei fod yn 8.3% yn llai dwys na dŵr, sy'n golygu ei fod yn arnofio ar wyneb dŵr hylif. Mae dŵr hylif ar ei ddwysaf ar 4 °C, pan fydd yn 1 g / cm³. Mae'r dwysedd hwn yn lleihau wrth i folecylau'r dŵr ddechrau ffurfio crisialau hecsagonol o rew wrth gyrraedd y rhewbwynt. Digwydd hyn o ganlyniad i'r bondiau hydrogen mewn dŵr. Pan mae dŵr yn cyrraedd tymheredd o 0 °C ac felly yn rhewi, mae'r bondiau hydrogen hyn yn gwneud i'r molecylau dŵr ffurfio dellt anhyblyg, sydd yn gadael bylchau rhwng y molecylau. Mae hyn felly yn arwain at ddwysedd isel ond cyfaint uchel iâ.
Gan ddibynnu ar bresenoldeb amhureddau fel gronynnau pridd neu swigod aer, gall iâ ymddangos yn dryloyw neu'n wynlas.
Pan fydd rhew yn toddi, mae'n amsugno cymaint o egni ag y byddai'n ei gymryd i wresogi dŵr o'r un màs i 80 °C. Yn ystod y broses doddi, mae tymheredd y rhew yn aros yn 0 °C. Wrth doddi, mae unrhyw egni sydd yn cael ei ychwanegu yn torri'r bondiau hydrogen rhwng molecylau rhew.