Llyfrgell Gwladwriaeth Rwsia
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Russian State Library)
Math | llyfrgell genedlaethol, llyfrgell gyhoeddus, tirnod, archif |
---|---|
Enwyd ar ôl | Vladimir Lenin |
Agoriad swyddogol | 1862 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Moscfa |
Sir | Arbat District, Moscfa |
Gwlad | Rwsia |
Cyfesurynnau | 55.751732°N 37.608996°E |
Cod post | 634003 |
Un o ddwy lyfrgell genedlaethol Rwsia yw Llyfrgell Gwladwriaeth Rwsia (Rwseg: Российская государственная библиотека), a leolir ym Moscfa. (Ni ddylid ei chymysgu â Llyfrgell Genedlaethol Rwsia, a leolir yn St Petersburg.) Delir dros 43 miliwn o eitemau yn Llyfrgell y Wladwriaeth, a sefydlwyd ym 1862.[1] Yn y cyfnod Sofietaidd fe'i gelwid yn Lyfrgell Gwladwriaeth yr UGSS V. I. Lenin[2] ac mae dal ganddi y llysenw poblogaidd ‘Leninka’ o’r dyddiau hynny.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Russian State Library. Llyfrgell Gwladwriaeth Rwsia. Adalwyd ar 15 Tachwedd 2014.
- ↑ (Saesneg) Russian State Library. Made in Russia. Adalwyd ar 15 Tachwedd 2014.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol