Neidio i'r cynnwys

Marchogion y Deml

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Templariaid)
  • Knights Templar
  • Cyd-Filwyr Tlawd Crist a Theml Solomon
  • Pauperes commilitones Christi Templique Salomonici Hierosolymitanis
Baner y Temlwyr mewn brwydrau
Gweithredolt. 1119 – t. 22 March 1312
Teyrngarwch y Pab
MathUrdd filwrol Gatholig Rufeinig
RôlAmddiffyn pererinion Cristnogol yn Jerwsalem (ardal)
Milwyr ymosod
Maint15,000–20,000 aelod ar ei hanterth, gyda 10% ohonynt yn farchogion[1][2]
PencadlysBryn y Deml, Jerwsalem, Teyrnas Jerwsalem
Llysenw(au)
  • Urdd Teml Solomon
  • Urdd Crist
NoddwrSant Bernard o Clairvaux
Arwyddair/Arwyddeiriau
  • Non nobis, Domine, non nobis, sed Nomini tuo da gloriam
  • (Cymraeg: Nid i ni, Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw ro ogoniant)
DilladMantell wen gyda chroes Demlwyr goch
Masgod(au)Dau farchog yn marchogaeth ar un ceffyl
Cyrchau milwrolY Croesgadau, gan gynnwys:Y Reconquista, gan gynnwys:
Cadlywyddion
Yr Uchel Feistr cyntafHugues de Payens
Yr Uchel Feistr olafJacques de Molay
Sêl Marchogion y Deml. Mae'r ddau farchog ar un ceffyl yn symbol o dlodi

Urdd filwrol Gatholig Ffrengig oedd Cyd-Filwyr Tlawd Crist a Theml Solomon (Lladin: Pauperes commilitones Christi Templique Solomonici), hefyd a elwir yn y Temlwyr a Marchogion y Deml (Ffrangeg: Ordre du Temple). Hi oedd un o'r urddau milwrol cyfoethocaf yng Nghristnogaeth y Gorllewin. Sefydlwyd yr urdd t. 1119 er mwyn amddiffyn pererinion ar hyd y daith i Jerwsalem, gyda'i phencadlys ar Fryn y Deml. Bodolodd yr urdd am fron i ddwy ganrif yn ystod yr Oesoedd Canol.

Sefydlwyd yr Urdd yn dilyn y Groesgad Gyntaf yn 1096, gyda'r bwriad o sicrhau diogelwch y pererinion o Ewrop oedd yn teithio i Jerwsalem wedi i'r Cristnogion feddiannu'r ddinas yn ystod y Groesgad. Cydnabuwyd yr Urdd yn swyddogol gan yr Eglwys Gatholig tua 1129, a chynyddodd ei haelodaeth a'i grym yn gyflym. Bu gan farchogion yr Urdd ran amlwg yn y Croesgadau. Heblaw'r marchogion, roedd nifer fawr o aelodau eraill.

Wedi i'r Cristnogion golli Jerwsalem, dechreuodd cefnogaeth i'r Urdd edwino. Manteisiodd Ffylip IV, brenin Ffrainc, oedd mewn dyled i'r Urdd, ar hyn, a phwysodd ar y Pab, Pab Clement V, i weithredu yn eu herbyn. Yn 1307, cymerwyd llawer o aelodau'r Urdd yn Ffrainc i'r ddalfa. Arteithiwyd llawer ohonynt nes iddynt arwyddo cyffesion, a dienyddiwyd nifer trwy eu llosgi. Yn 1312, cyhoeddodd y Pab fod yr Urdd yn cael ei dirwyn i ben.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Burman 1990, t. 45.
  2. Barber 1992, tt. 314–26

    By Molay's time the Grand Master was presiding over at least 970 houses, including commanderies and castles in the east and west, serviced by a membership which is unlikely to have been less than 7,000, excluding employees and dependents, who must have been seven or eight times that number.

Cedwir eu henw yn enw pentref Tredeml yn Sir Benfro.