Y Dadeni Dysg
Trem ar Fflorens, un o brif ddinasoedd y Dadeni Dysg. | |
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, mudiad diwylliannol |
---|---|
Dechreuwyd | 14 g |
Daeth i ben | 17 g |
Rhagflaenwyd gan | celf Gothig, yr Oesoedd Canol, Oesoedd Canol Diweddar |
Olynwyd gan | Baróc, Cyfnod Modern Cynnar |
Lleoliad | Ewrop |
Yn cynnwys | y Dadeni Cynnar, yr Uchel Ddadeni, Proto-Renaissance, celf y Dadeni, y Dadeni Eidalaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfnod chwyldroadol yn hanes Ewrop oedd y Dadeni Dysg, neu yn syml y Dadeni, sydd yn nodi'r trawsnewid o'r Oesoedd Canol i'r cyfnod modern. Prif nodwedd yr oes hon oedd yr ailddeffroad yn nysgeidiaeth clasurol a'r ymdrech i adfywio ac adeiladu ar syniadau a gwerthoedd yr Henfyd, yn enwedig drwy ddyneiddiaeth. Dechreuodd ar droad y 13g a'r 14g yn yr Eidal, ac oddi yno ymledodd yn gyntaf yn y 15g i Sbaen a Phortiwgal ac yn yr 16g i'r Almaen, Ffrainc, y Gwledydd Isel, Lloegr, a Gwlad Pwyl. Datblygodd yng nghyd-destun argyfyngau'r Oesoedd Canol Diweddar a newidiadau cymdeithasol mawr y 14g a'r Diwygiad Protestannaidd yn y 15g. Yn ogystal â'r adfywiad clasurol a dyneiddiaeth, a fynegir drwy gyfryngau llenyddiaeth, celf, pensaernïaeth, a cherddoriaeth, nodir y Dadeni gan ddyfeisiau a darganfyddiadau newydd, gan gynnwys y cwmpawd, powdwr gwn, a'r wasg argraffu.
Cyd-destun hanesyddol
[golygu | golygu cod]Weithiau, caiff dechrau'r Dadeni Dysg ei ddyddio i farwolaeth yr Ymerawdwr Ffredrig II—yr arweinydd olaf i feddu ar reolaeth dros ogledd a chanolbarth yr Eidal—ym 1250. Dyma ddyddiad digon mympwyol, ond mae'n nodi un o'r elfennau pwysicaf a arweiniai at gychwyniadau'r Dadeni yn yr Eidal, sef annibyniaeth de facto y rhanbarthau hynny a fyddai'n ganolfannau diwylliannol y dyneiddwyr.
Celf
[golygu | golygu cod]- Prif: Celf y Dadeni
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Llenyddiaeth y Dadeni
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Cerddoriaeth y Dadeni
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gwyddoniaeth
[golygu | golygu cod]Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Llinell amser o’r Dadeni
[golygu | golygu cod]- 1308–1321: Y bardd Dante Alighieri yn ysgrifennu ei gampwaith La Divina Commedia.
- 1353: Giovanni Boccaccio yn ysgrifennu'r Decamerone.
- 1434: Cromen y Duomo yn Fflorens yn cael ei gwblhau gan Filippo Brunelleschi.
- 1435: Cyhoeddir y traethawd dylanwadol De pictura ('Am beintiadau') gan Leon Battista Alberti, sydd yn cynnwys yr astudiaeth gwyddonol cyntaf o berspectif.
- 1453: Cwymp Caergystennin – trobwynt yn hanes rhyfela oherwydd y defnydd eang o bowdwr gwn.
- Tua 1455: Y Beibl argraffiedig cyntaf yn cael ei gynhyrchu gan Johann Gutenberg.
- 1469: Lorenzo de' Medici, a elwir yn Il Magnifico yn dod i rym yn Fflorens. Llenwa ei lys â deallusion mwyaf y cyfnod, gan gynnwys yr arlunwyr Sandro Botticelli a Michelangelo, y bardd Angelo Poliziano a'r athronwyr Marsilio Ficino a Giovanni Pico della Mirandola.
- 1477: Y llyfr argraffiedig cyntaf yn Lloegr (Dicets and Sayings of the Philosophers) yn cael ei gynhyrchu gan William Caxton. Sandro Botticelli yn peintio Primavera.
- 1485: Harri Tudur yn meddiannu coron Lloegr ym Mrwydr Bosworth.
- tua 1485: Sandro Botticelli yn peintio Genedigaeth Gwener.
- 1492: Christopher Columbus yn glanio yn y Byd Newydd.
- 1495–1498: Leonardo da Vinci yn peintio Y Swper Olaf ym Milan.
- 1501–1504: Michelangelo yn cerflunio ei gampwaith Dafydd.
- tua 1502: Leonardo da Vinci yn peintio Mona Lisa.
- 1508–1512: Michelangelo yn peintio golygfeydd o Genesis ar nenfwd y Cappella Sistina yn Rhufain.
- 1509: Harri VIII yn esgyn i orsedd Lloegr.
- 1516: Utopia gan syr Thomas More yn cael ei gyhoeddi.
- 1517: Damcaniaethau Wittenburg gan Martin Luther yn cael eu cyhoeddi, gan ddechrau’r Diwygiad Protestannaidd.
- 1532: Cyhoeddir Il Principe gan Niccolò Machiavelli.
- 1534: Harri VIII yn torri gyda Rhufain.
- 1536-1543: Deddf Uno Cymru a Lloegr.
- 1545: Dechrau’r Gwrth-Ddiwygiad, ymateb yr eglwys Babyddol i'r Diwygiad Protestannaidd.
- 1577–1580: Syr Francis Drake yn hwylio o amgylch y byd.
- 1588: Beibl William Morgan, y Beibl cyntaf yn y Gymraeg, yn cael ei gyhoeddi.
- 1600–1601: William Shakespeare yn ysgrifennu ei ddrama Hamlet.