Gershom Scholem
Athronydd ac hanesydd Almaenig-Israelaidd oedd Gershom Scholem (5 Rhagfyr 1897 – 21 Chwefror 1982) sydd yn nodedig am arloesi astudiaeth academaidd y Cabala ac am ei gyfraniadau at ysgolheictod cyfriniaeth Iddewig.
Ganed Gerhard Scholem ym Merlin, prifddinas yr Almaen Imperialaidd. Trigodd ei deulu yn y ddinas honno ers dechrau'r 19g. Erbyn troad y ganrif, Iddew a oedd wedi cymhathu ym mywyd dosbarth-canol Berlin oedd Arthur Scholem, tad Gerhard, a uniaethai'n genedlaetholwr Almaenig. Gweithiodd Arthur yn argraffwr, ac wrth ei fusnes daeth Gerhard yn gyfarwydd â llyfrau ers ei flynyddoedd cynnar. Erbyn ei arddegau, gwrthodai Gerhard daliadau gwleidyddol ei dad, gan gydymdeimlo â'r achos Seionaidd ac yn falch o'i hunaniaeth Iddewig. Ar liwt ei hun, aeth i'r ysgol gymunedol Iddewig leol i ddysgu'r Hebraeg ac astudio'r Talmwd gyda chymorth rabi Uniongred. Mabwysiadodd y ffurf Hebraeg ar ei enw, Gershom, a darllenodd yn frwd am hanes, crefydd, a diwylliant yr Iddewon. Yn ôl un stori, prynodd ei fam bortread o Theodor Herzl fel anrheg iddo adeg y Nadolig 1911, a chafodd y llun ei hongian ar y goeden Nadolig. Yn sgil ffrae rhwng Gershom a'i dad, cafodd ei fwrw allan o'r tŷ a bu'n rhaid iddo fyw gyda Seioniaid ifainc eraill yng ngorllewin Berlin, gan gynnwys Zalman Rubashov (a fyddai'n Arlywydd Israel) a Shmuel Yosef Agnon. Cafodd ei alw i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwasanaethodd am ddau fis cyn iddo gael ei alw'n "seicopath" a'i ddadfyddino.
Ceisiodd fod yn Iddew ffyddlon am gyfnod byr yn ystod ei ieuenctid, ond trodd at seciwlariaeth yn y pen draw a byddai ei feddylfryd seciwlar yn siapio'i ysgolheictod Cabalaidd a'i hanesyddiaeth Iddewig trwy gydol ei oes. Erbyn iddo gychwyn ar ei gyrsiau mathemateg, athroniaeth, ac Hebraeg ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, ym 1915, roedd Scholem wedi ymddiddori'n drylwyr â gweithiau'r Cabala. Rhodd y gorau i'w wersi mathemateg bur wedi ychydig o dymhorau. Yn y brifysgol, cyfarfu â nifer o'i gyfoedion blaenaf, gan gynnwys Martin Buber, Hayim Nahman Bialik, ac Ahad Ha'am, a magodd gyfeillgarwch agos â Leo Strauss a Walter Benjamin. Ym 1917, penderfynodd Scholem fyddai'n ymfudo i'r Tir Sanctaidd wedi iddo orffen ei addysg, ac aeth Scholem i sawl prifysgol arall, yn ôl yr arfer yn yr Almaen yr adeg honno. Astudiodd resymeg fathemategol dan diwtoriaeth Gottlob Frege ym Mhrifysgol Jena, ac ieithoedd Semitaidd ym Mhrifysgol Maximilian Ludwig ym München. Am ei draethawd estynedig, cyflwynodd gyfieithiad anodiadol o un o lyfrau hynaf y Cabala, Sefer ha-Bahir, a derbyniodd ei radd o Brifysgol Maximilian Ludwig yn Ionawr 1922.
Ym Medi 1923, ymfudodd Scholem i Fandad Palesteina. Penodwyd yn llyfrgellydd yr adran Hebraeg yn llyfrgell Prifysgol Hebraeg Jeriwsalem, ac wrth ei swydd byddai'n casglu a chatalogio'r llawysgrifau Cabalaidd. Yn ddiweddarach ymunodd â chyfadran y Brifysgol Hebraeg, a fe'i penodwyd yn athro cyfriniaeth Iddewig ym 1933. Ymddeolodd ym 1965, a chafodd ei benodi'n athro emeritws. Bu farw yn Jeriwsalem yn 84 oed.