Neidio i'r cynnwys

Cwpan Eingl-Gymreig

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Cwpan Eingl-Gymreig a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 08:29, 15 Medi 2024. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Y Gwpan Eingl-Gymreig
Logo'r Cwpan EDF
Chwaraeon Rygbi'r undeb
Sefydlwyd 2005
Nifer o Dimau 16
Gwledydd Baner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Pencampwyr presennol Teigrod Caerlŷr
Gwefan Swyddogol http://www.edfenergycup.com/

Cystadleuaeth rygbi'r undeb rhwng clybiau Seisnig a rhanbarthau Cymreig yw'r Cwpan Eingl-Gymreig. Mae 4 rhanbarth o Gymru a 12 clwb o Loegr yn rhan o'r gystadleuaeth.

Ffurfiwyd y gystadleuaeth yn nhymor 2005-2006 â'r bwriad o adfer yr ymryson rhwng y clybiau Seisnig a'r rhanbarthau Cymreig. Rownd grŵp (lle mae'r grwpiau wedi eu trefnu i leihau'r pellter teithio rhwng y timau, ac i gadw'r timau Cymreig ar wahân) ac yna dau rownd knock-out i benderfynu'r enillydd yw strwythur y gwpan. Dim ond unwaith bydd y tîmau o fewn pob grŵp yn chwarae ei gilydd, er mwyn lleihau'r effaith ar amserlenni'r Guinness Premiership a'r Gynghrair Geltaidd.

Bu tipyn o ymryson ynglŷn ag effaith y gystadleuaeth ar gystadlaethau eraill y tîmau Cymreig a Seisnig. Ar ôl i Undeb Rygbi Cymru gyrraedd cytundeb ag Undeb Rygbi Lloegr ynglŷn â'r gystadleuaeth, diarddelwyd rhanbarthau Cymru dros dro o'r gynghrair Geltaidd oherwydd y grêd y byddai ymglymiad rhanbarthau Cymru i'r Cwpan Eingl-Gymreig yn datbrisio'r gynghrair. Er hynny, dychwelodd y rhanbarthau Cymreig yn ôl i'r gynghrair wedi cytundeb a fyddai'n osgoi chwarae gemau Eingl-Gymreig ar benwythnosau a dyranwyd yn wreiddiol i'r Gynghrair Geltaidd.

Yn ogystal â'r ymryson hwn, bu tipyn o wrthwynebiad o'r clybiau o adrannau îs rygbi Lloegr. Byddai'r Cwpan Eingl-Gymreig yn disodli Cwpan Lloegr a oedd ar agor i'r holl glybiau Seisnig. Roeddent yn hawlio fod cau'r gystadleuaeth i glybiau o safon is yn cymryd arian o isadrannau'r Guinness Premiership i ddiogelu hierarchaeth rygbi Lloegr.

Ynghylch bwriad y clybiau Ffrengig i foicotio Cwpan Heineken 2007-2008, daeth rhaglenni tymhorol rygbi yn bwnc trafod unwaith eto yn Ewrop. Bu dadlau ynglŷn â'r nifer o gemau y dylid chwarae mewn tymor, a'r gred fod yr amserlen bresennol yn orlawn. Ynghylch y dadlau yma, mae'n debygol na fydd y Cwpan Eingl-Gymreig yn parhau i gael ei chwarae yn hir dymor.

Noddwyr

[golygu | golygu cod]
  • 2005–2006 - Cwpan Powergen
  • 2006–2008 - Cwpan Egni EDF
  • 2009–2011 - Cwpan LV LV

Pencampwyr

[golygu | golygu cod]
Tymor Enillydd Sgôr Ail Lleoliad y rownd derfynol Torf
2005/2006
Manylion
Picwns Llundain 23-19 Sgarlets Llanelli Stadiwm Twickenham, Llundain Baner Lloegr ??
2006/2007
Manylion
Teigrod Caerlŷr 41-35 Y Gweilch Stadiwm Twickenham, Llundain Baner Lloegr ??
2007/2008
Manylion
Y Gweilch 23-6 Teigrod Caerlŷr Twickenham, Llundain Baner Lloegr ??
2008/2009
Manylion
Gleision Caerdydd 50-12 Caerloyw Stadiwm Twickenham, Llundain Baner Lloegr ??
2009/2010
Manylion
Seintiau Northampton 30-24 Caerloyw Stadiwm Twickenham, Llundain Baner Lloegr ??