Cwpan Eingl-Gymreig
Y Gwpan Eingl-Gymreig | |
---|---|
Chwaraeon | Rygbi'r undeb |
Sefydlwyd | 2005 |
Nifer o Dimau | 16 |
Gwledydd | Cymru Lloegr |
Pencampwyr presennol | Teigrod Caerlŷr |
Gwefan Swyddogol | http://www.edfenergycup.com/ |
Cystadleuaeth rygbi'r undeb rhwng clybiau Seisnig a rhanbarthau Cymreig yw'r Cwpan Eingl-Gymreig. Mae 4 rhanbarth o Gymru a 12 clwb o Loegr yn rhan o'r gystadleuaeth.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd y gystadleuaeth yn nhymor 2005-2006 â'r bwriad o adfer yr ymryson rhwng y clybiau Seisnig a'r rhanbarthau Cymreig. Rownd grŵp (lle mae'r grwpiau wedi eu trefnu i leihau'r pellter teithio rhwng y timau, ac i gadw'r timau Cymreig ar wahân) ac yna dau rownd knock-out i benderfynu'r enillydd yw strwythur y gwpan. Dim ond unwaith bydd y tîmau o fewn pob grŵp yn chwarae ei gilydd, er mwyn lleihau'r effaith ar amserlenni'r Guinness Premiership a'r Gynghrair Geltaidd.
Bu tipyn o ymryson ynglŷn ag effaith y gystadleuaeth ar gystadlaethau eraill y tîmau Cymreig a Seisnig. Ar ôl i Undeb Rygbi Cymru gyrraedd cytundeb ag Undeb Rygbi Lloegr ynglŷn â'r gystadleuaeth, diarddelwyd rhanbarthau Cymru dros dro o'r gynghrair Geltaidd oherwydd y grêd y byddai ymglymiad rhanbarthau Cymru i'r Cwpan Eingl-Gymreig yn datbrisio'r gynghrair. Er hynny, dychwelodd y rhanbarthau Cymreig yn ôl i'r gynghrair wedi cytundeb a fyddai'n osgoi chwarae gemau Eingl-Gymreig ar benwythnosau a dyranwyd yn wreiddiol i'r Gynghrair Geltaidd.
Yn ogystal â'r ymryson hwn, bu tipyn o wrthwynebiad o'r clybiau o adrannau îs rygbi Lloegr. Byddai'r Cwpan Eingl-Gymreig yn disodli Cwpan Lloegr a oedd ar agor i'r holl glybiau Seisnig. Roeddent yn hawlio fod cau'r gystadleuaeth i glybiau o safon is yn cymryd arian o isadrannau'r Guinness Premiership i ddiogelu hierarchaeth rygbi Lloegr.
Ynghylch bwriad y clybiau Ffrengig i foicotio Cwpan Heineken 2007-2008, daeth rhaglenni tymhorol rygbi yn bwnc trafod unwaith eto yn Ewrop. Bu dadlau ynglŷn â'r nifer o gemau y dylid chwarae mewn tymor, a'r gred fod yr amserlen bresennol yn orlawn. Ynghylch y dadlau yma, mae'n debygol na fydd y Cwpan Eingl-Gymreig yn parhau i gael ei chwarae yn hir dymor.
Noddwyr
[golygu | golygu cod]Pencampwyr
[golygu | golygu cod]Tymor | Enillydd | Sgôr | Ail | Lleoliad y rownd derfynol | Torf |
---|---|---|---|---|---|
2005/2006 Manylion |
Picwns Llundain | 23-19 | Sgarlets Llanelli | Stadiwm Twickenham, Llundain | ?? |
2006/2007 Manylion |
Teigrod Caerlŷr | 41-35 | Y Gweilch | Stadiwm Twickenham, Llundain | ?? |
2007/2008 Manylion |
Y Gweilch | 23-6 | Teigrod Caerlŷr | Twickenham, Llundain | ?? |
2008/2009 Manylion |
Gleision Caerdydd | 50-12 | Caerloyw | Stadiwm Twickenham, Llundain | ?? |
2009/2010 Manylion |
Seintiau Northampton | 30-24 | Caerloyw | Stadiwm Twickenham, Llundain | ?? |