Los Angeles
Los Angeles | |
---|---|
Lleoliad o fewn Califfornia | |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Ardal | Califfornia |
Llywodraeth | |
Awdurdod Rhanbarthol | Cyngor y Ddinas |
Maer | Eric Garcetti |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 498.3 km² |
Uchder | 233 troedfedd (71 medr) m |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 3,849,378 (Cyfrifiad 2006) |
Dwysedd Poblogaeth | 3,168 /km2 |
Metro | 17,755,322 |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | PST (UTC-8) |
Cod Post | 213, 310, 323, 424, 661, 818 |
Gwefan | www.lacity.org |
Dinas yng Nghaliffornia yn Unol Daleithiau America yw Los Angeles. Hi yw dinas fwyaf Califfornia, a'r ail-fwyaf ymhlith dinasoedd yr Unol Daleithiau. Yn 2006. roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 3,849,378, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 12,950,129.
Hanes
Sefydlwyd Los Angeles ar y 4ydd o Fedi, 1781, gan y llywodraethwr Sbaenaidd Felipe de Neve fel El Pueblo de Nuestra Señora la Reina de los Ángeles de Porciúncula (yn Gymraeg: Pentref Ein Gwraig, Brenhines Angylion Porziuncola). Daeth yn rhan o Mecsico yn 1821, pan gafodd annibyniaeth wrth Sbaen. Yna yn 1848, ar ddiwedd y Rhyfel Mecsico-America, prynwyd Los Angeles a Chaliffornia gan yr Unol Daleithiau fel rhan o Gytundeb Guadalupe Hidalgo, a thrwy wneud hynny, daeth yn rhan o'r Unol Daleithiau. Ymgorfforwyd Los Angeles fel bwrdeisiaeth ar y 4ydd o Ebrill 1850, pum mis cyn i Galiffornia dderbyn ei statws fel talaith.
Mae Los Angeles yn un o brif ganolfannau'r byd o ran busnes, masnachu rhyngwladol, adloniant, diwylliant, y cyfryngau, ffasiwn, gwyddoniaeth, technoleg ac addysg. Ceir yno sefydliadau yn amrywio o feysydd proffesiynol i ddiwylliannol, ac mae'n un o ganolfannau economaidd mwyaf sylweddol yr Unol Daleithiau. Yn gartref i Hollywood, caiff ei ystyried fel "Prifddinas Adloniant y Byd", gan gynhyrchu ffilmiau, rhaglenni teledu a cherddoriaeth. Oherwydd pwysigrwydd y diwydiant adloniant, mae nifer o bobl enwog yn byw yn Los Angeles a'r maesdrefi cyfagos.
Demograffeg
Yn Arolwg Amcangyfrifol y Gymuned Americanaidd yn 2005-2007, amcangyfrifwyd fod poblogaeth y ddinas yn 51.0% yn Wyn (29.3% di-Sbaenaidd gwyn yn unig), 10.6% Du neu Americanwyr Affricanaidd, 1.0% Americanwyr Indiaidd ac Alaskaidd Brodorol, 11.4% Asiaidd, 0.3% brodorion o Hawaii ac Ynysoedd y Môr Tawel, 28.6% o hiliau eraill a 2.8% â ddwy hil neu fwy. Roedd 48.5% o'r holl boblogaeth yn Sbaenig neu Ladinaidd o ran hil.
Nododd cyfrifiad 2000 boblogaeth o 3,694,820, 1,275,412 o gartrefi, a 798,407 o deuluoedd yn byw yn y ddinas, gyda dwysedd poblogaeth o 7,876.8 o bobl ymhob milltir sgwâr (3,041.3/km2). Mae Los Angeles wedi datblygu'n ddinas aml-hil, gyda niferoedd mawrion o fewnfudwyr Lladinaidd ac Asiaidd yn ystod y degawdau diwethaf.
O holl drigolion y ddinas, mae 42.2% yn siarad Saesneg, 41.7% Sbaeneg, 2.4% Corëg, 2.3% Ffilipino, 1.7% Armeneg, 1.5% Tsieineg (gan gynnwys Cantoneg a Mandarin) ac 1.3% Persieg fel eu hiaith gyntaf.
Yn ôl y cyfrifiad, roedd gan 33.5% o gartrefi blant o dan 18 oed, roedd 41.9% yn gyplau priod, 14.5% o gartrefi yn eiddo i ferched lle nad oedd gwr yn bresennol, a 37.4% yn gartrefi i bobl nad oedd yn deuluoedd. Roedd unigolion yn byw mewn 28.5% o gartrefi ac roedd gan 7.4% o gartrefi rhywun yn byw yna a oedd dros 65 mlwydd oed. Maint cyfartalog ty oedd 2.83 a maint cyfartalog teuluoedd oedd 3.56.
Cyfanswm incwm cyfartalog cartrefi oedd $36,687, ac yn achos teuluoedd $39,942. Roedd gan wrywod incwm canolrifol o $31,880, benywod $30,197. Roedd 22.1% o'r boblogaeth ac 18.3% o deuluoedd yn byw mewn tlodi, gyda 30.3% o'r rheiny o dan 18 a 12.6% o bobl dros 65 oed yn byw mewn tlodi.
Mae Los Angeles yn gartref i bobl o dros 140 o wledydd gwahanol, sy'n siarad 224 o ieithoedd gwahanol.[1] Ceir ardaloedd o leiafrifoedd ethnig fel Chinatown, Filipinotown Hanesyddol, Koreatown, Little Armenia, Little Ethiopia, Tehrangeles, Little Tokyo, a Thai Town.
Troseddau a diogelwch
Mae gwasanaeth heddlu Los Angeles wedi gweld lleihad sylweddol yn y nifer o droseddau ers canol y 1990au, a chyrhaeddodd uchafbwynt yn 2007, gyda 392 o lofruddiaethau. Mae Antonio Villaraigosa yn aelod o'r grŵp Maeriau yn Erbyn Gynnau Anghyfreithlon.
Yn ôl Asesiad Perygl Cyffuriau gan Ganolfan Gwybodaeth Gyffuriau Cenedlaethol ym Mai 2001, mae Talaith Los Angeles yn gartref i 152,000 o aelodau o gangiau sydd wedi'u rhannu i mewn i 1,350 gang. Ymhlith y gangiau enwocaf mae gangiau stryd yr 18th Street, Mara Salvatrucha, Crips, Bloods, a'r Surenos. O ganlyniad i hyn, mae gan y ddinas y ffugenw "Prifddinas Gangiau'r Unol Daleithiau."
Adeiladau a chofadeiladau
- Canolfan Getty
- Neuadd Walt Disney
- Plaza Fox
- Theatr Grauman
- Theatr Kodak
- Traeth Fenis
- Tref Tsieina (Los Angeles)
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas
- (Saesneg) Los Angeles Convention & Visitors Bureau