Neidio i'r cynnwys

Los Angeles

Oddi ar Wicipedia
Los Angeles
Mathcharter city, dinas yn yr Unol Daleithiau, dinas, dinas global, metropolis, mega-ddinas, business cluster, dinas fawr, LGBT sanctuary city Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlQueen of Heaven Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,898,747 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 4 Medi 1781 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKaren Bass Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−08:00, Cylchfa Amser y Cefnfor Tawel, UTC−07:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Berlin, Mumbai, Nagoya, Eilat, Bordeaux, Lusaka, Dinas Mecsico, Tehran, Taipei, Guangzhou, Athen, St Petersburg, Vancouver, Giza, Jakarta, Cawnas, Makati, Split, Beirut, Salvador, Llundain, Montréal, Yerevan, Amsterdam, Busan, Manceinion, Podgorica, Auckland, Ischia, Ashdod, Auckland City, Santa Maria degli Angeli, Los Mochis, Tijuana, Manila, Dubai Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLos Angeles County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd1,302.15171 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr106 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLomita, Compton, Huntington Park, East Los Angeles, Willowbrook, Alhambra, South Pasadena, Monterey, Pasadena, Glendale, Burbank, San Fernando, Hidden Hills, El Segundo, Santa Monica, West Hollywood, Inglewood, Long Beach, Torrance, West Athens, Carson, San Pedro, Gardena, Dinas Culver, Beverly Hills, Ladera Heights, Westmont, West Carson, Calabasas, Lynwood, Monterey Park, Montebello, Vernon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.1°N 118.2°W Edit this on Wikidata
Cod post90001–90068, 90070–90084, 90086–90089, 90091, 90093–90097, 90099, 90101–90103, 90174, 90185, 90189, 90291–90293, 91040–91043, 91303–91308, 91342–91349, 91352–91353, 91356–91357, 91364–91367, 91401–91499, 91601–91609 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Los Angeles Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Los Angeles Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKaren Bass Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn ne Califfornia yn Unol Daleithiau America yw Los Angeles ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Hi yw dinas fwyaf Califfornia, yr ail-fwyaf ymhlith dinasoedd yr Unol Daleithiau, a'r drydedd ddinas fwyaf yng Ngogledd America - wedi Dinas Mecsico ac Efrog Newydd. Yn 2006 roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 3,849,378, ac yn y cyfrifiad diweddaraf roedd yn 3,898,747 (1 Ebrill 2020)[1][2]. Caiff ei hadnabod am hinsawdd mwyn Môr y Canoldir, amrywiaeth ethnig, diwydiant adloniant Hollywood, a'i fetropolis gwasgarog.

Mae hi'n gorwedd o fewn basn, gyda mynyddoedd mor uchel â 10,000 troedfedd (3,000 m), ac anialwch.[3] Y ddinas, gyda'i harwynebedd o tua 469 milltir sgwâr (1,210 km2), yw sedd weinyddol y sir Los Angeles County, y sir fwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau. Yn gartref i'r bobl frodorol y Chumash a Tongva, hawliwyd yr ardal a ddaeth yn Los Angeles gan y goresgynnwr Juan Rodríguez Cabrillo ar gyfer Sbaen ym 1542. Sefydlwyd y ddinas ar Fedi 4, 1781, o dan y llywodraethwr Sbaenaidd Felipe de Neve, ar safle pentref Yaanga.[4] Canfyddwyd olew yn y 1890au a thyfodd y ddinas yn sgil hynny'n gyflym. Ehangwyd y ddinas ymhellach pan gwblhawyd Traphont Ddŵr Los Angeles ym 1913, sy'n cludo dŵr o Ddwyrain Califfornia.[5]

Mae gan Los Angeles economi amrywiol ac mae'n cynnal busnesau mewn ystod eang o feysydd proffesiynol a diwylliannol. Mae ganddi hefyd y porthladd cynhwysydd prysuraf yn yr Americas.[6] Roedd gan ardal fetropolitan Los Angeles hefyd gynnyrch metropolitan gros (gdp) o $ 1.0 triliwn (yn 2017), sy'n golygu mai hi y drydedd ddinas fwyaf (yn ôl CMC) yn y byd, ar ôl ardaloedd metropolitan Tokyo a Dinas Efrog Newydd. Cynhaliodd Los Angeles Gemau Olympaidd yr Haf 1932 a 1984 a bydd yn cynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2028.

Trigai llwythau Tongva (Gabrieleños) a Chumash yn ardal arfordirol Los Angeles cyn dyfodiad y goresgynnwr Ewropeaidd. Lleolir Los Angeles heddiw ar safle pentref brodorol a alwyd yn Iyáangẚ (a sillafwyd fel "Yang-na" gan y Sbaenwyr), sy'n golygu "lle'r derw gwenwynig."[4][7][8]

Sefydlwyd Los Angeles ar y 4ydd o Fedi, 1781, gan y llywodraethwr Sbaenaidd Felipe de Neve fel El Pueblo de Nuestra Señora la Reina de los Ángeles de Porciúncula (yn Gymraeg: Pentref Ein Gwraig, Brenhines Angylion Porziuncola). Fel tystiolaeth o'r gwreiddiau Sbaenaidd, Catholig, mae gan y ddinas heddiw yr archesgobaeth Babyddol fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Roedd dwy ran o dair o'r gwladfawyr Mecsicanaidd yn mestizo neu mulatto, sef cymysgedd o dras Affricanaidd, frodorol ac Ewropeaidd.[9] Arhosodd yr anheddiad yn dref ffermio bychan a dibwys am ddegawdau, ond erbyn 1820, roedd y boblogaeth wedi cynyddu i tua 650 o drigolion.[10]

Daeth yn rhan o Mecsico yn 1821, pan gafodd annibyniaeth oddi wrth Sbaen. Yna yn 1848, ar ddiwedd y Rhyfel Mecsico-America, prynwyd Los Angeles a Chaliffornia gan yr Unol Daleithiau fel rhan o Gytundeb Guadalupe Hidalgo, a thrwy wneud hynny, daeth yn rhan o'r Unol Daleithiau. Ymgorfforwyd Los Angeles fel bwrdeisiaeth ar 4 Ebrill 1850, pum mis cyn i Galiffornia dderbyn ei statws fel talaith.

Mae Los Angeles yn un o brif ganolfannau'r byd o ran busnes, masnachu rhyngwladol, adloniant, diwylliant, y cyfryngau, ffasiwn, gwyddoniaeth, technoleg ac addysg. Ceir yno sefydliadau yn amrywio o feysydd proffesiynol i ddiwylliannol, ac mae'n un o ganolfannau economaidd mwyaf sylweddol yr Unol Daleithiau. Yn gartref i Hollywood, caiff ei ystyried fel "Prifddinas Adloniant y Byd", gan gynhyrchu ffilmiau, rhaglenni teledu a cherddoriaeth. Oherwydd pwysigrwydd y diwydiant adloniant, mae nifer o bobl enwog yn byw yn Los Angeles a'r maesdrefi cyfagos.

Demograffeg

[golygu | golygu cod]

Yn Arolwg Amcangyfrifol y Gymuned Americanaidd yn 2005-2007, amcangyfrifwyd fod poblogaeth y ddinas yn 51.0% yn Wyn (29.3% di-Sbaenaidd gwyn yn unig), 10.6% Du neu Americanwyr Affricanaidd, 1.0% Americanwyr Indiaidd ac Alaskaidd Brodorol, 11.4% Asiaidd, 0.3% brodorion o Hawaii ac Ynysoedd y Môr Tawel, 28.6% o hiliau eraill a 2.8% â ddwy hil neu fwy. Roedd 48.5% o'r holl boblogaeth yn Sbaenig neu Ladinaidd o ran hil.

Nododd cyfrifiad 2000 boblogaeth o 3,694,820, 1,275,412 o gartrefi, a 798,407 o deuluoedd yn byw yn y ddinas, gyda dwysedd poblogaeth o 7,876.8 o bobl ymhob milltir sgwâr (3,041.3/km2). Mae Los Angeles wedi datblygu'n ddinas aml-hil, gyda niferoedd mawrion o fewnfudwyr Lladinaidd ac Asiaidd yn ystod y degawdau diwethaf.

O holl drigolion y ddinas, mae 42.2% yn siarad Saesneg, 41.7% Sbaeneg, 2.4% Corëg, 2.3% Ffilipino, 1.7% Armeneg, 1.5% Tsieineg (gan gynnwys Cantoneg a Mandarin) ac 1.3% Persieg fel eu hiaith gyntaf.

Yn ôl y cyfrifiad, roedd gan 33.5% o gartrefi blant o dan 18 oed, roedd 41.9% yn gyplau priod, 14.5% o gartrefi yn eiddo i ferched lle nad oedd gwr yn bresennol, a 37.4% yn gartrefi i bobl nad oedd yn deuluoedd. Roedd unigolion yn byw mewn 28.5% o gartrefi ac roedd gan 7.4% o gartrefi rhywun yn byw yna a oedd dros 65 mlwydd oed. Maint cyfartalog ty oedd 2.83 a maint cyfartalog teuluoedd oedd 3.56.

Cyfanswm incwm cyfartalog cartrefi oedd $36,687, ac yn achos teuluoedd $39,942. Roedd gan wrywod incwm canolrifol o $31,880, benywod $30,197. Roedd 22.1% o'r boblogaeth ac 18.3% o deuluoedd yn byw mewn tlodi, gyda 30.3% o'r rheiny o dan 18 a 12.6% o bobl dros 65 oed yn byw mewn tlodi.

Mae Los Angeles yn gartref i bobl o dros 140 o wledydd gwahanol, sy'n siarad 224 o ieithoedd gwahanol.[11] Ceir ardaloedd o leiafrifoedd ethnig fel Chinatown, Filipinotown Hanesyddol, Koreatown, Little Armenia, Little Ethiopia, Tehrangeles, Little Tokyo, a Thai Town.

Troseddau a diogelwch

[golygu | golygu cod]

Mae gwasanaeth heddlu Los Angeles wedi gweld lleihad sylweddol yn y nifer o droseddau ers canol y 1990au, a chyrhaeddodd uchafbwynt yn 2007, gyda 392 o lofruddiaethau. Mae Antonio Villaraigosa yn aelod o'r grŵp Maeriau yn Erbyn Gynnau Anghyfreithlon.

Canol Los Angeles

Yn ôl Asesiad Perygl Cyffuriau gan Ganolfan Gwybodaeth Gyffuriau Cenedlaethol ym Mai 2001, mae Talaith Los Angeles yn gartref i 152,000 o aelodau o gangiau sydd wedi'u rhannu i mewn i 1,350 gang. Ymhlith y gangiau enwocaf mae gangiau stryd yr 18th Street, Mara Salvatrucha, Crips, Bloods, a'r Surenos. O ganlyniad i hyn, mae gan y ddinas y ffugenw "Prifddinas Gangiau'r Unol Daleithiau."

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Pel-droed

[golygu | golygu cod]
  • Los Angeles Galaxy - tim sy'n seiliedig yn Carson, maestref Los Angeles. Mae'r tim yn cystadlu yn yr MLS, ac mae'r tim yn cynnyws chwaraewyr fel Zlatan Ibrahimovic a Jonathon dos Santos. Maen nhw yn chwarae yn yr'Dignity Health Sports Park'
  • LAFC - tim sy'n seiliedig yn y Barc 'Expedition' yn Los Angeles. Mae'r tim hefyd yn cystadlu yn yr MLS, ac tymor 2018 oedd tymor cyntaf nhw fel clwb. Mae'r tim yn cynnyws chwaraewyr fel Carlos Vela a Diego Rossi.

Pel-droed Americanaidd

[golygu | golygu cod]
  • Los Angeles Rams - masnachfraint sy'n seiliedig yn Thousand Oaks, CA. Symudodd y Rams i LA o St. Louis, MO yn 2016 ac maent yn chwarae yn yr Coliseum Coffa Los Angeles. Mae ganddyn nhw chwaraewyr fel Todd Gurley ac Aaron Donald.
  • Los Angeles Chargers - masnachfraint sy'n seiliedig yn Costa Mesa, CA. Maen nhw, fel yr Los Angeles Galaxy yn chwarae yn yr stadiwm Dignity Health Sports Park yn Carson. Mae ganddyn nhw chwaraewyr fel Philip Rivers a Melvin Gordon.

Pel fas

[golygu | golygu cod]
  • Los Angeles Dodgers - tim sy'n seiliedig o Parc Elysian yn Los Angeles. Maen nhw'n chwarae yn yr stadiwm Dodger ac mae ganddyn nhw chwaraewyr fel Cody Bellinger a Rich Hill. Symudodd yr Dodgers o Efrog Newydd i Los Angeles yn 1958.

Pel fasged

[golygu | golygu cod]
  • Los Angeles Lakers - tim sy'n seiliedig o 'Downtown' Los Angeles. Sefydlwyd yr tim yn 1947. Maent yn chwarae yn yr stadiwm Staples Center ac mae ganddyn nhw chwaraewyr fel LeBron James a Reggie Bullock.
  • Los Angeles Clippers - tim sydd hefyd yn seiliedig o 'Downtown' Los Angeles. Sefydlwyd yr tim yn 1970. Maent hefyd yn chwarae yn yr Staples Center ac mae ganddyn nhw chwaraewyr fel Danilo Gallinari a Lou Williams.

Hoci Ia

[golygu | golygu cod]
  • Los Angeles Kings - tim sy'n seiliedig o Inglewood, CA. Mae'r tim yn chwarae yn yr Staples Center. Sefydlwyd yr tim yn 1967. Mae ganddyn nhw chwaraewyr fel Drew Doughty a Jonathan Quick.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://data.census.gov/cedsci/table?q=United%20States&tid=DECENNIALPL2020.P1. dyddiad cyrchiad: 21 Medi 2021.
  2. https://data.census.gov/cedsci/table?t=Populations%20and%20People&g=0100000US,%241600000&y=2020. Cyfrifiad yr Unol Daleithiau 2020. golygydd: Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau. dyddiad cyrchiad: 1 Ionawr 2022.
  3. Nodyn:Cite US Gazetteer
  4. 4.0 4.1 Estrada, William David (2009). The Los Angeles Plaza: Sacred and Contested Space. University of Texas Press. tt. 15–50. ISBN 978-0-292-78209-9.
  5. "Subterranean L.A.: The Urban Oil Fields | The Getty Iris". blogs.getty.edu. 16 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2015.
  6. "Table 3.1. GDP & Personal Income". U.S. Bureau of Economic Analysis. 2018. Cyrchwyd 6 Ebrill 2019.
  7. Bright, William (1998). Fifteen Hundred California Place Names. University of California Press. t. 86. ISBN 978-0-520-21271-8. LCCN 97043147. Founded on the site of a Gabrielino Indian village called Yang-na, or iyáangẚ, 'poison-oak place.'
  8. Sullivan, Ron (7 Rhagfyr 2002). "Roots of native names". San Francisco Chronicle. Cyrchwyd 7 Ionawr 2015. Los Angeles itself was built over a Gabrielino village called Yangna or iyaanga', 'poison oak place.'
  9. Mulroy, Kevin; Taylor, Quintard; Autry Museum of Western Heritage (March 2001). "The Early African Heritage in California (Forbes, Jack D.)". Seeking El Dorado: African Americans in California. University of Washington Press. t. 79. ISBN 978-0-295-98082-9. Cyrchwyd 30 Medi 2011.
  10. Guinn, James Miller (1902). Historical and biographical record of southern California: containing a history of southern California from its earliest settlement to the opening year of the twentieth century. Chapman pub. co. t. 63. Cyrchwyd 30 Medi 2011.
  11. [1] Language Spoken at Home Persons 5 Years of Age and Older. Los Angeles County, Cyfrifiad 2000. Adalwyd 2009-04-30

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]